Partneriaeth Natur Leol Caerdydd

Partneriaeth rhwng Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, canolfannau cofnodion amgylcheddol lleol, a phob awdurdod lleol a pharc cenedlaethol yng Nghymru yw Partneriaeth Natur Leol (PNL) Cymru.

Mae natur yn rhyfeddol ac ni allwn oroesi hebddo, ond mae’r amgylchedd naturiol yn dirywio a’r manteision y mae’n eu sicrhau. Nod prosiect PNL Cymru yw helpu i wrthdroi’r dirywiad hwn a hyrwyddo gwerth byd natur.

Drwy adeiladu rhwydwaith adfer natur ar draws Cymru, cynnwys pobl a chymunedau, busnesau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn camau ymarferol a chynllunio strategol, gallwn greu Cymru wydn a chyfoethog ei natur.

Mae Partneriaeth Natur Leol Caerdydd wedi cael ei sefydlu i gefnogi a hyrwyddo gweithgareddau i ddiogelu a gwella byd natur ar draws y ddinas ac mae’n agored i bawb.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am brosiect PNL Cymru neu os ydych am ymuno â rhestr bostio PNL Caerdydd i gael diweddariadau i’r prosiect, cysylltwch â’n cydlynydd PNL;

Samantha Eaves
Cydlynydd Partneriaeth Natur Leol
Canolfan Gadwraeth Fferm y Fforest
Yr Eglwys Newydd
Caerdydd
CF14 7JJ

(029) 22330235

Bioamrywiaeth@caerdydd.gov.uk

Ydych chi eisiau cefnogi byd natur, ond angen cymorth i gael gafael ar adnoddau?

Mae Partneriaeth Natur Leol Caerdydd wedi llunio detholiad o becynnau natur i gefnogi prosiectau ysgolion a chymunedau i dargedu, gwarchod a gwella bioamrywiaeth leol. Bydd y pecynnau yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin, a bydd y cynnwys yn amodol ar argaeledd.

Da i Ddraenogod:

Bydd y pecyn hwn yn eich helpu i gefnogi a monitro draenogod ar eich tiroedd. Bydd yn cynnwys blwch draenogod, camera llwybrau, platiau ffens draenogod, arwydd priffordd draenogod, twnnel monitro draenogod ac adnoddau adnabod bywyd gwyllt.

Da i bryfed peillio:

Bydd y pecyn hwn yn eich helpu i gefnogi a monitro pryfed peillio ar eich tiroedd. Bydd yn cynnwys hadau blodau gwyllt, hadau llysiau sy’n dda i bryfed peillio, gwesty gwenyn, adnoddau adnabod pryfed, ac offer llaw ar gyfer plannu.

Ditectifs Bywyd Gwyllt:

Bydd y pecyn hwn yn eich helpu i fonitro ac adnabod pob math o fywyd gwyllt ar eich tiroedd. Bydd yn cynnwys potiau pryfed, taflenni adnabod, rhwydi pryfed, camera llwybrau, twneli ôl troed mamaliaid, taflenni ymlusgiaid, a recordydd caneuon adar.

Syllwr Awyr:

Bydd y pecyn hwn yn eich helpu i gefnogi a monitro adar ac ystlumod. Bydd yn cynnwys blychau adar, blychau ystlumod, bwydwyr adar, recordydd caneuon adar, adnoddau adnabod adar ac ysbienddrych.

Gwlyptiroedd Gwych:

Bydd y pecyn hwn yn eich helpu i greu pwll neu gors a monitro bywyd gwyllt y gwlyptir. Bydd yn cynnwys leiniwr pwll, offer trochi mewn pyllau, planhigion pyllau a gwlyptiroedd ac adnoddau adnabod bywyd gwyllt.

SOS Trefol:

Os yw mannau gwyrdd yn gyfyngedig iawn yn eich ardal chi, cysylltwch â ni i drafod opsiynau pwrpasol ar gyfer creu cynefinoedd ar gyfer planhigion a bywyd gwyllt.

I wneud cais, anfonwch e-bost at dîm Partneriaeth Natur Leol Caerdydd: bioamrywiaeth@caerdydd.gov.uk am ragor o wybodaeth ac i drafod ymhellach.

Sylwer, dim ond ardaloedd yng Nghaerdydd y gall Partneriaeth Natur Leol Caerdydd eu hariannu. Os hoffech gyllid ar gyfer bioamrywiaeth y tu allan i Gaerdydd, cysylltwch â’ch awdurdod lleol i siarad â thîm Partneriaeth Natur Leol.

Rheoli ein glaswelltiroedd ar gyfer bioamrywiaeth

Wildlife, birds and bees

Mae Partneriaeth Natur Leol Caerdydd yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Cyngor i adolygu sut rydym yn rheoli ein glaswelltiroedd mewn parciau, mannau agored a lleiniau ymyl.

Archwiliwch fwy

Ymunwch ag un o Ddigwyddiadau Partneriaeth Natur Leol Caerdydd

Gwelwch y prosiectau yng Nghaerdydd ar wefan Partneriaethau Natur Lleol Cymru.

Dilynwch ni

Gweler ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Facebook | Youtube
Top
Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd.
Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd Datganiad hygyrchedd