Cyflawniadau’r prosiect hyd yn hyn

Ers mis Tachwedd 2021, mae’r prosiect wedi plannu tua 118,500 o goed newydd mewn 370 o safleoedd ledled Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys:

  • 10 hectar o ardaloedd coetir newydd,
  • 5 hectar o wrychoedd newydd, a
  • mwy na 1,500 o goed ffrwythau.

Mae’r safleoedd hyn yn cynnwys:

  • 180 o barciau a mannau agored
  • 100 o leiniau ymyl stryd,
  • 60 o ysgolion, meithrinfeydd neu leoliadau prifysgol,
  • 5 fferm, a
  • 35 o fannau cymunedol eraill fel neuaddau sgowtiaid, eglwysi, rhandiroedd a Hybiau.

Mae ein gwirfoddolwyr wedi cyfrannu dros 18,000 o oriau ers dechrau’r rhaglen yn 2021.

Mae llawer o deuluoedd yn gwirfoddoli gyda’i gilydd, tra bod llawer o’n gwirfoddolwyr eraill yn dod o:

  • grwpiau corfforaethol,
  • ysgolion, neu
  • grwpiau cymunedol.

Maent i gyd wedi chwarae rhan bwysig yn:

  • plannu a monitro coed ar draws Caerdydd, ac yn
  • gofalu am ein planhigfa goed yn Fferm y Fforest.

Yn unol â chyfartaleddau’r DU, cyfradd llwyddiant cyfartalog plannu newydd ledled Caerdydd yw 82%. Mae gan oddeutu 40% o safleoedd gyfradd llwyddiant o 100%.

Mae rhwydwaith y prosiect o “Warcheidwaid Coed” yn helpu i fonitro iechyd y safle ac adrodd am golledion coed newydd, a all fod oherwydd:

  • ffactorau tymhorol,
  • clefydau, neu
  • fandaliaeth.

Lle bu colledion mewn ardaloedd coed newydd, bydd y prosiect yn darparu rhai newydd yn lle’r rhain neu’n newid dull. Gallai hyn olygu dewis rhywogaeth arall i’w phlannu. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod gan goed y cyfle gorau o sefydlu.

Gallwch ddarganfod mwy am ein cyfleoedd gwirfoddoli.

Mae Coed Caerdydd hefyd wedi trefnu dros 40 o ddigwyddiadau hyfforddi yn seiliedig ar:

  • adnabod coed,
  • tocio perllannau, a
  • Stocrestr Coed Hynafol Coed Cadw.

Gallwch ddarganfod mwy am ein digwyddiadau hyfforddi yn y dyfodol.

Gweler ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Facebook | Youtube
Top
Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd.
Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd Datganiad hygyrchedd