Mae Coetiroedd Gogledd Caerdydd yn lle arbennig i natur a bodau dynol. Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â’r ddau yn ffynnu gyda’i gilydd. Mae’r coedwigoedd yn gartref i rywogaethau a chynefinoedd sensitif ac yn darparu lle i bobl gysylltu â natur a gadael y ddinas ar ôl.
Mae’r coetiroedd yn cael eu gwarchod o dan ddynodiadau cadwraeth i gydnabod eu harwyddocâd naturiol. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae cyflwr y safleoedd hyn wedi dirywio oherwydd cynnydd yn eu defnydd hamdden. Mae defnydd amhriodol hefyd yn peri risg diogelwch i ddefnyddwyr eraill.
Mae Cyngor Caerdydd, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru yn cydweithio â grwpiau defnyddwyr a chymunedau lleol i adfer y coedwigoedd, tra’n sicrhau mynediad priodol a diogel i bawb.
Ein gweledigaeth: Coetiroedd iach, gwydn gyda phobl a natur mewn cydbwysedd.











