Parc y Mynydd Bychan

Ynglŷn â Parc y Mynydd Bychan

Bu Parc y Mynydd Bychan unwaith yn rhan o ‘Waun Fawr ’ Caerdydd; mae bellach yn ardal werdd bwysig ar gyfer maestrefi gogledd Caerdydd. Mae’r parc 37 hectar (91 erw) yn cynnig cyfleusterau chwaraeon a chwarae i bob oedran, ond mae hefyd yn cynnwys coetiroedd, pyllau a gwlyptir sy’n gynefin i ystod eang o blanhigion a bywyd gwyllt.

Mae Parc y Mynydd Bychan yn un o barciau Baner Werdd Caerdydd.

Gwybodaeth i ymwelwyr

Mae’r parc ar agor i’r cyhoedd 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.

Nodweddion

  • Cae chwarae coffa’r Brenin Sior V a gedwir ‘mewn ymddiriedolaeth’ mewn cydweithrediad â Fields In Trust . Mae’r giatiau coffa ar ochr ogleddol y parc yn nodi’r cysylltiad hwn.
  • Pyllau bywyd gwyllt sy’n gartref i fadfallod dŵr cribog.
  • Gardd synhwyrau yn cynnwys mynediad hygyrch o dir yr ysbyty.

Cyfleusterau

  • Cyfleoedd gwirfoddoli Mae’r Gwasanaeth Wardeiniaid Parc Cymunedol yn trefnu dyddiau gwaith a gweithgareddau eraill yn y parc mewn cydweithrediad â Chyfeillion Parc y Mynydd Bychan .
  • Caeau chwaraeon ac ystafelloedd newid ar gael i’w bwcio
  • Talu i chwarae golff bach Cwrs 9 twll 
  • Golff troed a Rygbi troed
  • Lluniaeth ar gael o’r ciosg golff pan fo ar agor
  • Cae chwarae ar gyfer plant hyd at tua 12 oed
  • Maes parcio talu ac arddangos a mynediad i gerddwyr i Ysbyty’r Mynydd Bychan Parcio am ddim am 2 awr i ddefnyddwyr y parc.
  • Cae 3G â llifoleuadau ar gael i’w logi
  • Rheilffordd Fodel Parc y Mynydd Bychan ar agor trwy’r flwyddyn
  • Llwybr Fforio Natur:i blant – lawrlwythwch daflen

 

Cyfleusterau toiled ar gael pan fo’r ciosg golff ar agor.

Sut i ddod o hyd i ni

Dod o hyd i ni
Pwynt mynediad GPS (lledred / hydred)
Maes parcio’r rheilffordd fodel 51.511897, -3.186798
Prif faes parcio a mynediad i Barc y Mynydd Bychan 51.509361, -3.183972

What3words: leaves.strike.pies

Darganfod y parc

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd