Llogi sgwteri Tramper ym Mharc Cefn Onn
Gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri, rydyn ni wedi ymuno â Countryside Mobility, i ddarparu dau sgwter symudedd sy’n addas ar gyfer pob math o dir i’w llogi. Mae’r rhain ar gael un diwrnod yr wythnos ar ddyddiadau penodol.
Maen nhw’n ddiogel ac yn hawdd eu defnyddio, hyd yn oed os nad ydych wedi gorfod defnyddio sgwter o’r blaen.
Gall archebion gael eu gwneud drwy e-bostio CeidwaidParciauCymunedol@caerdydd.gov.uk. Dylech gynnwys eich manylion cyswllt a’r amser, y dyddiad, a pha mor hir yr hoffech logi’r Tramper
Gall fod yn bosibl cael un heb archebu o flaen llaw, yn dibynnu ar argaeledd ar y dyddiadau llogi penodol.
Gyda 2 lwybr ar gael drwy’r parc, gallwch gerdded o’i gwmpas i gyd mewn awr. Os yw’n well gennych chi gyflymder mwy hamddenol, rydym yn argymell cymryd o leiaf 2 awr.
I logi sgwter Tramper, bydd angen i chi ymaelodi gyda Countryside Mobility. Gellir defnyddio’r aelodaeth ym mhob lleoliad Countryside Mobility arall hefyd.
Dewisiadau aelodaeth:
- 12 mis – £15 (delfrydol ar gyfer ymweliadau mynych â’r parc a lleoliadau eraill Countryside Mobility).
- Pythefnos – £5
- Defnydd untro – £3
Mae ffi llogi ychwanegol o £2.50 yr awr – mae hyn yn helpu i dalu costau cynnal y gwasanaeth. Bydd taliadau cardiau yn cael eu cymryd wrth gyrraedd.
Mae Trampers ar gael i’w llogi ar y dyddiadau hyn:
2026
Dydd Mercher 2 Medi
Dydd Sul 13 Medi
Dydd Mawrth 15 Medi
Dydd Sadwrn 26 Medi
Dydd Llun 28 Medi
Dydd Gwener 9 Hydref
Dydd Mercher 14 Hydref
Dydd Sadwrn 24 Hydref
Dydd Mercher 28 Hydref
Dydd Sadwrn 7 Tachwedd
Dydd Llun 9 Tachwedd
Dydd Sadwrn 21 Tachwedd
Dydd Sadwrn 28 Tachwedd
Dydd Iau10 Rhagfyr
Dydd Gwener 18 Rhagfyr
Dyddiadau eraill i’w cadarnhau