Taith Gerdded Gylchol Sain Ffagan

Mae’r daith gerdded gylchol hon ar y mwyaf ar y gwastad gydag ambell lethr ysgafn. Mae’r daith yn cychwyn ar y pwynt yma ger y giât mochyn, ond dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol bod tair camfa ar hyd y llwybr.

Mae arwyddion wedi eu postio ar hyd y llwybr hwn er mwyn i gerddwyr eu dilyn. Mae’r daith ar ei hyd ychydig yn llai na 2 filltir (3km) a chan ddibynnu ar ba mor gyflym y cerddwch dylai gymryd rhwng tri chwarter awr ac awr a hanner i’w chwblhau.
Yn sgil y ffaith fod nifer o lwybrau ar gael yn yr ardal hon, mae’r band lliw arbennig ar arwyddion y daith gylchol hon ynghyd â chyfeirio cronolegol. Dylai defnyddwyr nodi hefyd bod pwynt gogleddol y llwybr hwn yn golygu cerdded ar hyd ymyl y ffordd. Oherwydd hynny, dylech arfer y parch arferol at y briffordd bob amser.

Mae lluniaeth, toiledau a mannau parcio wedi eu lleoli yn gyfleus yn yr Amgueddfa Werin ac yn y Plymouth Arms gerllaw.

Lawrlwythwch y cyfarwyddiadau a’r map

Mae ardal Sain Ffagan yn llawn bioamrywiaeth. Y prif gynefinoedd o ddiddordeb yw Afon Élai, ynghyd â’r coetiroedd a’r pyllau niferus. Mae’r afon ei hun yn Safle o Bwysigrwydd ar gyfer Gwarchod Natur (SBGN). Mae dyfrgwn, Bronwen y Dŵr, Glas y Dorlan a Gwennol y Glennydd yn enghreifftiau o rai o’r creaduriaid arbennig sy’n defnyddio’r afon. Mae hefyd yn gadarnle i Gwcwll y Mynach, planhigyn mawr gwenwynig â blodau glas arno.

Coed ffawydd yw’r coetiroedd yn yr ardal yn bennaf, lle gallwch ddod o hyd i fflora daear coetir hynafol o dan y coed. Yn y gwanwyn bydd hyn yn cynnwys carped o Glychau’r Gog, Craf y Geifr (garlleg gwyllt), Llygad Ebrill a Blodau’r Gwynt. Mae’r coetiroedd hefyd yn gartref i sawl rhywogaeth o ystlumod (ac mae cytref o Ystlumod Pedol Lleiaf yn byw ar dir yr Amgueddfa).

Mae Madfallod Dŵr Cribog yn treulio’r haf yn y pyllau mawr ac yn gaeafgysgu mewn mannau tamp ar y tir. Sain Ffagan yw eu cadarnle yng Nghaerdydd. Yn yr ardal gellir dod o hyd hefyd i Fadfallod Cyffredin a Madfallod Dŵr Palfog, Brogaod, Llyffantod, Nadroedd y Gwair a Gweision y Neidr.

Mae’r daith gylchol hon yn amgylchynu’r safle y mae’r rhan fwyaf o bobl yn credu yw safle Rhyfel Cartref Brwydr Sain Ffagan, y cofnodwyd iddo ddigwydd ar 8 Mai 1648.

Mae ffynonellau yn cofnodi i’r frwydr ddechrau pan ddatganodd lluoedd anfoddog y Senedd dros y Brenin yn Ebrill 1648 ac yna martsio i’r dwyrain i Forgannwg. Lledodd y newyddion yn gyflym bod Oliver Cromwell wedi ei yrru i Gymru i roi taw ar y gwrthryfel – ac felly roedd brwydr yn anochel. Gwelodd brwydr fawr olaf y Rhyfel Cartref 8,000 o Frenhinwyr yn ymosod ar luoedd y Senedd oedd ond yn 3,000 o ran nifer. Wedi oddeutu dwy awr o frwydro (ar ffurf ymosodiadau gan feirch filwyr ac ymladd wyneb yn wyneb), amgylchynwyd y “Gwrthryfelwyr Brenhinol”.

Dywedir wedyn i’r milwyr troed Brenhinol dorri’n rhydd a ffoi o safle’r frwydr. Y Seneddwyr oedd yn fuddugol. Tra bod pob cenhedlaeth mae’n debyg yn gor-ddweud sut y bu i ‘afon Elái redeg yn goch â gwaed’, mae’n deg dweud bod hon yn un o safleoedd nodedig hanes Ail Ryfel Cartref Lloegr yng Nghymru.

Ar droid/beic:

Ewch i mewn o Castle Hill, Llwybr Elái o’r dwyrain, Michaelston Road o’r gorllewin a PROW13 i’r gogledd o’r groesfan reilffordd o Plymouth Great Wood (ar droed yn unig).

Ar y bws:

Gallwch ddod o hyd i fanylion llwybrau bysus a gwasanaethau ar www.cardiffbus.co.uk

Yn y car:

Mae meysydd parcio wedi eu lleoli yn gyfleus yn yr Amgueddfa Werin ac yn y Plymouth Arms gerllaw (bydd tâl bychan am barcio ym maes parcio’r Amgueddfa).

Ar gyfer pob ymholiad yn ymwneud â’r daith (neu i adrodd am unrhyw broblemau) cysylltwch â Thîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus y Cyngor ar 029 2078 5200.

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd