Llwybrau Stori Caerdydd

Child Friendly Cardiff logo

Mae’r storïwraig o Gaerdydd, Tamar Williams, wedi cael ei chomisiynu gan y Tîm Dinas sy’n Dda i Blant i greu pedwar llwybr stori pwrpasol ar hyd a lled parciau Caerdydd. Bydd y llwybrau hyn yn arwain plant a’u teuluoedd ar hyd cyfres wedi’i churadu o fannau “oedi”, yn cwrdd â chymeriadau chwedlau Cymreig ac yn clywed vignettes o’u hanes.

Diben y llwybrau yw annog chwarae, hwyl a diddordeb go iawn yn y stori, e.e. “dod o hyd” i’r lleoliad nesaf, ymgysylltu’n wirioneddol â’r awyr agored, megis codi rhisgl, rhwbio/creu rhywbeth o frigau a darganfod mannau cudd yn nhirnodau enwog Caerdydd.

Bydd y straeon ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Bydd modd eu clywed drwy sganio codau QR.

Ewch i wefan Caerdydd Sy’n Dda i Blant i ddewis eich llwybr.

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd