Llwybr Bae Caerdydd

Llwybr Bae Caerdydd

Mae’r llwybr cylchol ar gyfer beicwyr a cherddwyr yn 10 cilomedr (6.2 milltir) o hyd. Mae’n arwain o amgylch y Bae a throsodd at dref glan môr Penarth dros Bont y Werin, pont 140 metr o hyd sy’n cysylltu Penarth a’r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ar gyfer cerddwyr a beicwyr.

Ar hyd y llwybr, cewch flas ar dreftadaeth gyfoethog Caerdydd, cewch weld adeiladau enwog megis yr Eglwys Norwyaidd, Canolfan y Mileniwm fyd enwog a’r Senedd. Mae’r caffis, bars a bwytai yn y Bae yn rhoi apêl unigryw, arbennig iddo.

Lawrlwytho map o Lwybr y Bae

Ewch ar daith gyfrifiadurol o Fae Caerdydd

Mae map cerdded a beicio (8mb PDF) am ddim Caerdydd yn ddelfrydol os ydych chi eisiau cynllunio eich siwrneiau cerdded a beicio yng Nghaerdydd. Gallwch gasglu map beicio mewn sawl lleoliad ledled y ddinas, gan gynnwys llyfrgelloedd a chanolfannau dysgu cymunedol.

Cardiff Bay Barrage

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd