Dyddiad: 26/04/2026
Amser: 4:30 am - 6:30 am
Cwrdd: Maes Parcio Llyn Hendre, Rhodfa’r Gypreswydden, Llaneirwg, CF3 0RG
Ymunwch â’r Ceidwaid Cymunedol a Gwirfoddolwyr Cadwraeth Llaneirwg a Trowbridge (CVST) am daith gerdded arbennig yn gynnar yn y bore o amgylch Llyn Hendre a’i lonyddwch. Ymdrochwch yn seiniau hudolus côr y bore bach a phrofi pelydrau cyntaf yr heulwen wrth i’r llyn ddeffro o’i drwmgwsg. Byddwch yn cael eich arwain gan y tîm Ceidwaid Cymunedol a gwirfoddolwyr profiadol, a fydd yn eich helpu i nodi’r gwahanol ganeuon adar a rhannu mewnwelediadau diddorol i’w hymddygiad.
Cyrhaeddwch yn brydlon yn y man cyfarfod i sicrhau nad ydych yn colli dechrau taith gerdded côr y bore bach. Gwisgwch esgidiau a dillad sy’n addas i’r tywydd. Bydd y daith gerdded yn cymryd tua 2 awr ac ni fydd yn rhy heriol. Argymhellir yn gryf eich bod yn dod â sbienddrych. Dewch â fflachlamp gyda chi.
Digwyddiad am ddim
Gallwch archebu drwy Eventbrite
https://HendreLakeDawnChorus2026.eventbrite.co.uk



Comments are closed.