Ynglŷn â Parc y Maltings
Gosodwyd Parc y Maltings ym 1993 gan Gorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd (a ddatblygodd Bae Caerdydd). Fe’i datblygwyd ar ardal a oedd unwaith yn gartref i warysau ac adeiladau diwydiannol.
Yn 2023, cafodd y parc ei ail-dirweddu i greu gwahanol lefelau. Mae pen gogleddol y parc wedi’i osod ag arwynebau caled, ar gyfer digwyddiadau lleol. Mae’r ardal ganolog yn elwa o goed aeddfed, llwyni, dôl blodau gwyllt a glaswellt. Mae ardal ddeheuol y parc yn cynnwys y maes chwarae, ardal chwarae naturiol, Ardal Chwaraeon Amlddefnydd (AChA) a’r parc sglefrio.
Mae Parc y Maltings yn un o barciau Baner Werdd Caerdydd .








