Adeiladwyd Tŷ Parc y Rhath ym 1897 fel preswylfa i Uwch-arolygydd y Parc. Trwy gydol y degawdau canlynol, roedd yn gartref i nifer o bobl bwysig ym myd garddwriaeth a pharciau.
Roedd teulu mawreddog Pettigrew Caerdydd yn allweddol wrth ddatblygu parciau’r ddinas, gan ddechrau gydag Andrew Pettigrew, Prif Arddwr i Ardalydd Bute. Datblygodd Andrew dir Castell Caerdydd ar gyfer yr Arglwydd Bute, a ddaeth yn Barc Bute pan roddwyd y castell i bobl Caerdydd ym 1947.








