Erbyn 1921, roedd 60 o glybiau a 1400 o chwaraewyr cofrestredig yn Undeb Pêl-fas Cymru, pob un wedi’i leoli yng Nghaerdydd a Chasnewydd. Ar yr adeg hon, roedd gemau yn denu torfeydd enfawr, gyda’r rhai rhyngwladol yn cael cynifer â 10,000 o wylwyr yn bresennol.
Roedd pêl fas Cymru yn cael ei hystyried yn falch fel camp dosbarth gweithiol. Nid oedd gan glybiau dir cartref yn swyddogol, ond roedd yn dibynnu ar y defnydd o barciau cyhoeddus. Nid oedd disgwyl i wylwyr brynu tocynnau, ond gwnaed casgliadau mewn gemau i dalu’r ffioedd ar gyfer y caeau. Chwaraeodd y gêm ran sylweddol mewn cymunedau fel y Sblot a Grangetown, gyda llawer o’r sîn gymdeithasol leol wedi’i seilio ar y gamp.
Yn union fel pêl-droed, denodd pêl fas Cymru nifer sylweddol o chwaraewyr benywaidd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Er bod y rhai sy’n gyfrifol am gynghreiriau pêl-droed yn atal menywod rhag parhau i chwarae ar ôl y rhyfel, nid oedd gwrthwynebiad o’r fath mewn pêl fas. Yn y 1920au, roedd gêm y menywod yn ffynnu a chynhaliwyd y gêm ryngwladol gyntaf i fenywod rhwng Cymru a Lloegr ym 1926.
Am nifer o resymau, gostyngodd poblogrwydd y gêm yn raddol ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Nid oedd y cynghreiriau chwaraeon mwy ffurfiol yn cefnogi pêl fas ac roedd yn fwyfwy anodd dod o hyd i le i chwarae. Roedd cyllid wedi bod yn ansicr ers blynyddoedd lawer ac roedd timau yn cael trafferth dod o hyd i’r arian i barhau.
Er bod pêl fas Cymru yn dal i gael ei chwarae gan nifer fach o dimau, mae’r gêm Americanaidd yn llawer mwy poblogaidd heddiw.
Yr Ail Ryfel Byd
Yn ystod rhyfel 1939-45, defnyddiwyd y Rec fel depo ar gyfer balwnau amddiffyn. Roedd Rhandiroedd unwaith eto yn cymryd tua hanner y Rec. Tynnwyd y rheiliau i gyfrannu at yr ymgyrch am fetel sgrap i’w ddefnyddio wrth adeiladu llongau, awyrennau ac arfau. Ychwanegwyd adeiladau at ddibenion Rhagofalon Cyrchoedd Awyr (ARP), gan gynnwys postyn warden, canolfannau diheintio, glanhau ac achub.
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd
Erbyn 1945, roedd y ganolfan achub yn cael ei defnyddio fel ystafell wisgo gan yr Adran Parciau. Un arall o’r adeiladau oedd Canolfan Hamdden Parc y Rhath, a ddefnyddiwyd gan gymdeithasau lleol a grwpiau theatr. Ym 1956 daeth yr adeilad hwn yn Llyfrgell Parc y Rhath. Fe’i cymeradwywyd i ddod yn lyfrgell barhaol ym 1970 ac fe’i hailenwyd yn Llyfrgell Pen-y-lan.
Cymeradwywyd disodli’r Ganolfan Hamdden gyda chyfleusterau newydd i’r gymuned ym 1985. Byddai’r datblygiad newydd yn darparu lle ar gyfer chwaraeon dan do, yn ogystal â thoiledau cyhoeddus, ystafelloedd newid awyr agored ac ardal chwarae newydd i blant. Heddiw mae Llyfrgell a Chanolfan Gymunedol Pen-y-lan yn ganolfan i drigolion lleol gydag ystod eang o weithgareddau a chyfleusterau ar gael.