Cychod ar y Llyn

Mae cychod pleser ar y llyn wedi bod yn rhan o Barc y Rhath ers iddo agor ym mis Mehefin 1894. Adeiladwyd llwyfan glanio ym mis Mai 1894, ac yn ystod y gaeaf hwnnw adeiladwyd lloches cychod hefyd. Gellid llogi cychod pleser ar y llyn ar gost o 6d am 30 munud ar gyfer 2 berson, neu 3d i fwy na 2 o bobl. Nid oedd defnyddio’r cychod yn cael ei ganiatáu ar ddydd Sul.

Roedd y cychod yn boblogaidd, a chynyddodd nifer y cychod ar y llyn yn y blynyddoedd dilynol. Erbyn 1911, ystyriwyd bod y llwyfan glanio yn beryglus gan fod y pren wedi dirywio. Fe’i hailadeiladwyd ym 1912 gyda waliau maen a llawr cerrig. Ychwanegwyd to gwastad a balconi yn ddiweddarach, i greu tŷ cychod gyda phromenâd uwchben. Agorodd hwn yn swyddogol ym mis Mai 1913.

Llun hanesyddol yn dangos y promenâd ym Mharc y Rhath gyda thorfeydd yn gwylio’r cychod ar y llyn
Britannia 1 ar y llyn, cardiffparks.org.uk

Er gwaethaf gwrthwynebiad gan bysgotwyr, gosodwyd cwch modur mawr, Britannia I, ar y llyn ym mis Ebrill 1915. Daeth teithiau cwch yn atyniad mawr i ymwelwyr, oedd yn mwynhau cyfle i fynd ar daith o amgylch y llyn.

Ym 1920 cymerodd y Cyngor drosodd weithredu cychod ar y llyn, oedd yn cael ei redeg yn breifat cyn hynny. Roedd poblogrwydd cychod yn ffynnu ac roedd hyn yn broffidiol i’r Cyngor. Yn ogystal â chodi tâl am logi cychod, ychwanegwyd tâl yn ddiweddarach am fynediad i’r llwyfan cychod a’r balconi i’r rhai nad oeddent yn defnyddio’r cychod.

O 1927, nid oedd rhwyfo yn bosibl yn ystod y gaeaf mwyach oherwydd lefel isel y dŵr yn y llyn rhwng Hydref a Mawrth.

Erbyn 1939, prynwyd ail gwch modur mawr, Britannia II, wrth i deithiau i fyny ac i lawr y llyn barhau i fod yn boblogaidd. Ychwanegwyd y Britannia III diesel at y fflyd ym 1954 ac roedd angen adeiladu doc bach ar y llwyfan glanio.

Cymeradwywyd prynu cwch trydan i gymryd lle Britannia III ym 1986. Adeiladwyd y cwch newydd, Roath’s Pride, gan Bossoms o Rydychen a chostiodd tua £20,000.

Ar ôl i archwiliad ganfod bod angen atgyweiriadau helaeth ar y tŷ cychod a’r balconi, penderfynwyd y dylid ei ddymchwel a gosod adeilad newydd sbon yn ei le. Byddai’r adeilad newydd yn cyd-fynd ag arddull y parc Fictoraidd, ac yn cynnwys dec gwrth-ddŵr, di-lithro ar y to gyda phont newydd â ramp i wella hygyrchedd.

Cwblhawyd y gwaith ym 1987 a derbyniodd wobr Tywysog Cymru a gwobr gan yr Ymddiriedolaeth Ddinesig.

Ar ôl cwblhau’r prosiect hwn, penderfynodd y Pwyllgor Hamdden ac Amwynderau y dylid dymchwel a disodli’r hen adeiladau ger y tŷ cychod newydd hefyd. Roedd hyn yn cynnwys ystafell fwyta ar gyfer staff y parciau, adeilad toiled a gweithdy atgyweirio cychod. Ym 1991, agorwyd adeilad newydd a oedd yn gartref i swyddfa docynnau, ystafell fwyta ar gyfer staff, toiledau cyhoeddus, gweithdy a swyddfeydd.

Adeiladwyd y lloc ar gyfer Roath’s Pride ar yr adeg hon hefyd, wedi’i addasu o’r doc gwreiddiol oherwydd nad oedd y cwch yn gallu symud am yn ôl. Roedd y lloc newydd yn rhedeg yn gyfochrog â’r llwyfan glanio gyda gatiau ar y ddau ben.

Yn anffodus, cafodd gwasanaeth Roath’s Pride ei atal yn 2013 yn dilyn archwiliad gan syrfewyr morol.

Roath’s Pride ar y llyn gyda theithwyr
Roath’s Pride ar y llyn gyda theithwyr, 1991 (Cardiff Parks)

Amserlen

1894 – Adeiladu’r llwyfan glanio pren cyntaf, gyda 50 o gychod pleser i’w llogi.

1913 – Adeiladu llwyfan glanio maen newydd gyda thŷ cychod a balconi.

1920 – Y cyngor yn cymryd perchnogaeth o’r gwasanaeth llogi cychod; gyda 65 o gychod, 11 o byntiau ac 1 cwch modur.

1939 – 2 gwch modur yn darparu teithiau ar y llyn; Britannia I a Britannia II.

1954 – Prynu cwch modur newydd, Britannia III, ac adeiladu doc sych bach.

1986 – Comisiynu cwmni Bossoms o Rydychen i adeiladu Roath’s Pride, cwch modur trydan newydd.

1990 – Adnewyddu’r llwyfan cychod ar gyfer Roath’s Pride. Byddai teithwyr yn mwynhau teithiau ar y llyn nes i wasanaeth y cwch gael ei atal yn 2013.

Heddiw – mae pedalos yn cael eu defnyddio drwy gydol y tymor.

Adeiladu cychod

Yn y 1960au-70au, adeiladwyd a thrwsiwyd cychod rhwyfo a rhwyfau i’w defnyddio ar y llyn gan Sid Griffiths. Roedd holl waith Sid yn eithriadol o grefftus ac amcangyfrifir bod tua 60 o’i gychod mahogani wedi’u gwneud â llaw ar y llyn. Ar ôl i Sid farw, gwnaed cychod newydd o wydr ffibr, yn seiliedig ar fowld o gwch pren gwreiddiol Sid.

Darllenwch fwy am y cychod modur a gweld lluniau ohonynt yma.

Cerdyn post hanesyddol yn dangos cychod ar Lyn y Rhath a'r llwyfan glanio
Cychod ar y llyn 1930

Friends of Roath Park Logo
Gweithio mewnpartneriaeth â Chyfeillion Parc y Rhath

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi PreifatrwyddDatganiad hygyrchedd