Erbyn 1939, prynwyd ail gwch modur mawr, Britannia II, wrth i deithiau i fyny ac i lawr y llyn barhau i fod yn boblogaidd. Ychwanegwyd y Britannia III diesel at y fflyd ym 1954 ac roedd angen adeiladu doc bach ar y llwyfan glanio.
Cymeradwywyd prynu cwch trydan i gymryd lle Britannia III ym 1986. Adeiladwyd y cwch newydd, Roath’s Pride, gan Bossoms o Rydychen a chostiodd tua £20,000.
Ar ôl i archwiliad ganfod bod angen atgyweiriadau helaeth ar y tŷ cychod a’r balconi, penderfynwyd y dylid ei ddymchwel a gosod adeilad newydd sbon yn ei le. Byddai’r adeilad newydd yn cyd-fynd ag arddull y parc Fictoraidd, ac yn cynnwys dec gwrth-ddŵr, di-lithro ar y to gyda phont newydd â ramp i wella hygyrchedd.
Cwblhawyd y gwaith ym 1987 a derbyniodd wobr Tywysog Cymru a gwobr gan yr Ymddiriedolaeth Ddinesig.
Ar ôl cwblhau’r prosiect hwn, penderfynodd y Pwyllgor Hamdden ac Amwynderau y dylid dymchwel a disodli’r hen adeiladau ger y tŷ cychod newydd hefyd. Roedd hyn yn cynnwys ystafell fwyta ar gyfer staff y parciau, adeilad toiled a gweithdy atgyweirio cychod. Ym 1991, agorwyd adeilad newydd a oedd yn gartref i swyddfa docynnau, ystafell fwyta ar gyfer staff, toiledau cyhoeddus, gweithdy a swyddfeydd.
Adeiladwyd y lloc ar gyfer Roath’s Pride ar yr adeg hon hefyd, wedi’i addasu o’r doc gwreiddiol oherwydd nad oedd y cwch yn gallu symud am yn ôl. Roedd y lloc newydd yn rhedeg yn gyfochrog â’r llwyfan glanio gyda gatiau ar y ddau ben.
Yn anffodus, cafodd gwasanaeth Roath’s Pride ei atal yn 2013 yn dilyn archwiliad gan syrfewyr morol.