{"id":5878,"date":"2021-08-06T13:15:20","date_gmt":"2021-08-06T13:15:20","guid":{"rendered":"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/?page_id=5878"},"modified":"2024-06-20T08:36:06","modified_gmt":"2024-06-20T08:36:06","slug":"prosiect-argae-parc-y-rhath","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/parciau\/parc-y-rhath\/prosiect-argae-parc-y-rhath\/","title":{"rendered":"Prosiect Argae Parc y Rhath"},"content":{"rendered":"<div class=\"wpb-content-wrapper\"><p>[vc_row][vc_column width=&#8221;1\/1&#8243;][vc_column_text]<\/p>\n<h2>Datblygu opsiynau i sicrhau ei effeithiolrwydd yn y dyfodol<\/h2>\n<p>Mae Llyn Parc y Rhath yn gronfa dd\u0175r gafodd ei chreu drwy osod argae i&#8217;r de a\u2019i bwydo gan Nant Fawr. Mae Cyngor Caerdydd yn gyfreithiol gyfrifol am gynnal Argae Parc y Rhath, sy&#8217;n eiddo cyhoeddus, ac mae archwiliadau rheolaidd yn ofynnol o dan Ddeddf Cronfeydd D\u0175r (1975).<\/p>\n<p>Canfu&#8217;r archwiliad diweddaraf ar y gronfa na fyddai gorlifan yr argae\u2019n ddigon mawr i wrthsefyll llifogydd eithafol a allai, yn ddamcaniaethol, ddigwydd, ac felly mae angen gwelliannau.<\/p>\n<p>[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row][vc_column bg_image=&#8221;5842&#8243; width=&#8221;1\/4&#8243;]<div class=\"spacer\" style=\"height: 300px;\"><\/div>[\/vc_column][vc_column width=&#8221;3\/4&#8243;][vc_column_text el_id=&#8221;links&#8221;]<\/p>\n<h2>Datblygu ein cynigion<\/h2>\n<p>Penodwyd Arup, cwmni ymgynghori peirianneg blaenllaw, i gynnal astudiaeth i archwilio&#8217;r opsiynau gorau o ran sicrhau effeithiolrwydd yr argae yn y dyfodol a sicrhau y gall cenedlaethau&#8217;r dyfodol fwynhau un o barciau mwyaf poblogaidd Caerdydd yn ddiogel.<\/p>\n<p>Mae Arup bellach wedi cwblhau&#8217;r astudiaeth fanwl sydd wedi asesu amrywiol opsiynau i fynd i&#8217;r afael \u00e2 chapasiti\u2019r gorlifan ac wedi nodi\u2019r datrysiad a ffefrir ganddynt.<\/p>\n<p>Ym mis Rhagfyr 2022 cyflwynwyd y datrysiad dewisol hwn i&#8217;r gymuned a rhanddeiliaid drwy gyfres o ddigwyddiadau gan gynnwys gweminarau a sesiynau galw heibio. Gellir gweld deunydd o&#8217;r ymgysylltu hwn ar-lein. Disgwylir i&#8217;r holl ddyddiadau a gynhwysir newid wrth i&#8217;r prosiect ddatblygu.<\/p>\n<p><a class=\"damlink\" href=\"https:\/\/arcg.is\/1K5y951\">Ewch i wefan y cynnig prosiect<\/a>[\/vc_column_text]<div class=\"spacer\" style=\"height: 15px;\"><\/div>[\/vc_column][\/vc_row][vc_row][vc_column width=&#8221;1\/1&#8243;][vc_column_text]<\/p>\n<h2>Y diweddaraf am y prosiect<\/h2>\n<p>Ar hyn o bryd rydym yn datblygu&#8217;r dyluniad ac yn paratoi cais cynllunio ar gyfer y gwaith arfaethedig i&#8217;r argae.<\/p>\n<p>Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda&#8217;r gymuned leol i sicrhau eu bod yn deall y gwaith fydd ei angen.\u00a0 Bydd ymgynghoriad cyn ymgeisio cyn cyflwyno&#8217;r cais cynllunio, er mwyn rhoi cyfle i&#8217;r gymuned a rhanddeiliaid roi adborth ar y cynigion.[\/vc_column_text][vc_column_text el_class=&#8221;hidden&#8221;]<\/p>\n<h2>Rhannwch eich adborth<\/h2>\n<p>Hoffem glywed eich sylwadau ar y cynigion.\u00a0 Llenwch hyn <a href=\"https:\/\/engage360.tractivity.co.uk\/cf046ef5-ca2d-4a44-8fa6-e08fc1bc5ae4\/survey?q=2022%7c3YjV6z30XtolLdBRYY4ygSUuTOvCC%2fxTlrqjDwZKhVMxatlIVayvR7m%2f2ceXLOAZ2ix4rxBlCJpwWY1kBnNZXg%3d%3d\" target=\"\" rel=\"noopener\">ar-lein Ffurflen adborth<\/a>.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r holl sylwadau i&#8217;w dychwelyd erbyn <strong>dydd<\/strong> <strong>Llun 9 Ionawr 2023.<\/strong>[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row class=&#8221;hidden&#8221;][vc_column bg_image=&#8221;5842&#8243; width=&#8221;1\/4&#8243;]<div class=\"spacer\" style=\"height: 350px;\"><\/div>[\/vc_column][vc_column width=&#8221;3\/4&#8243;][vc_column_text]<\/p>\n<h2>Gwybodaeth cymunedol<\/h2>\n<p>Lawrlwythwch y <a href=\"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/wp-content\/uploads\/211012_Roath_Park_Dam_Community_Webinar_Presentation_WEBPAGE_Welsh.pdf\" target=\"\" rel=\"noopener\">cyflwyniad gweminar<\/a><\/p>\n<p>Lawrlwythwch y <a href=\"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/wp-content\/uploads\/CC_Roath_Park_Boards_FINAL_Welsh.pdf\" target=\"\" rel=\"noopener\">byrddau arddangos<\/a><\/p>\n<p>Lawrlwythwch y <a href=\"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/wp-content\/uploads\/Gwelliannau-i-Strwythur-Argae-Parc-y-Rhath.pdf\">Nodyn Crynodeb Technegol &#8211; January 2022<\/a>[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row][vc_column width=&#8221;1\/1&#8243;]<div class=\"newdivider align-center\" style=\"border-bottom-style: solid; border-color: #999999; border-bottom-width: 1px; margin-top: 0; margin-bottom: 0; width: 100%; \"><\/div><div class=\"clear\"><\/div>[vc_column_text]<\/p>\n<h2>Cwestiynau ac Atebion<\/h2>\n<p>Diweddarwyd Awst 2023.[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row][vc_column width=&#8221;1\/1&#8243;][vc_tta_accordion style=&#8221;flat&#8221; shape=&#8221;square&#8221; color=&#8221;white&#8221; gap=&#8221;5&#8243; active_section=&#8221;12&#8243; no_fill=&#8221;true&#8221; collapsible_all=&#8221;true&#8221;][vc_tta_section title=&#8221;Gwaith a wnaed&#8221; tab_id=&#8221;work&#8221;][vc_column_text]<\/p>\n<h3>Pwy sy&#8217;n gyfrifol am gynnal a chadw Argae Parc y Rhath?<\/h3>\n<p>Mae Cyngor Caerdydd yn gyfreithiol gyfrifol am gynnal a chadw Argae Parc y Rhath, sy&#8217;n eiddo cyhoeddus, ac mae angen archwiliadau rheolaidd dan Ddeddf Cronfeydd D\u0175r (1975).<\/p>\n<h3>A fydd yn rhaid cau\u2019r parc?<\/h3>\n<p>Bydd angen cau gwahanol rannau o&#8217;r parc ger yr argae yn ystod y gwaith ymchwilio i\u2019r ddaear a&#8217;r camau adeiladu. Caiff yr holl gyfnodau y bydd yr argae ar gau eu cynllunio a rhoddir gwybod amdanynt i randdeiliaid cymunedol a thrigolion lleol ymlaen llaw.\u00a0 Ceir diweddariadau rheolaidd ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Cyngor Caerdydd. Os bydd newidiadau&#8217;n codi oherwydd amgylchiadau annisgwyl, rhoddir gwybod am y newidiadau hyn cyn gynted \u00e2 phosibl.<\/p>\n<h3>A fydd ardal chwarae&#8217;r plant ar gau?<\/h3>\n<p>Ar gyfer y gwaith adeiladu yn y dyfodol, byddwn yn ceisio cadw&#8217;r parc ar agor cymaint \u00e2 phosibl, ond mae&#8217;n debygol y bydd rhywfaint o waith cau yn digwydd ar yr ardal chwarae. Fel rhan o&#8217;r gwaith dylunio parhaus rydym yn adolygu&#8217;r effaith bosibl ar yr ardal chwarae.<\/p>\n<h3>Pryd mae&#8217;r gwaith gwella i fod i ddechrau?<\/h3>\n<p>Ar hyn o bryd rydym yn datblygu&#8217;r dyluniad ac yn paratoi cais cynllunio ar gyfer y gwaith gwella. Bydd ymgynghoriad cyn ymgeisio cyn cyflwyno&#8217;r cais cynllunio. Bydd dyddiad dechrau&#8217;r gwaith adeiladu yn cael ei rannu ymlaen llaw pan fydd yn hysbys.<\/p>\n<h3>Faint o amser fydd y gwaith yn ei gymryd?<\/h3>\n<p>Yn amodol ar ganiat\u00e2d cynllunio, mae disgwyl i&#8217;r gwaith bara 12-18 mis.<\/p>\n<h3>Beth fydd yr oriau gwaith yn ystod y gwaith adeiladu?<\/h3>\n<p>Caiff diwrnodau ac oriau gwaith y safle eu penderfynu pan fydd contractwr yn cael ei benodi.<\/p>\n<h3>A fydd y gwaith yn effeithio ar oleudy Parc y Rhath?<\/h3>\n<p>Nid oes unrhyw waith adeiladu wedi&#8217;i gynllunio yng nghyffiniau&#8217;r goleudy. Bydd y gwaith adeiladu yn canolbwyntio ar y promen\u00e2d a&#8217;r gorlifan.<\/p>\n<h3>A fydd angen cau Heol Orllewinol y Llyn neu Heol Ddwyreiniol y Llyn er mwyn gwneud y gwaith?<\/h3>\n<p>Ar hyn o bryd, nid ydym yn rhagweld y bydd angen cau Heol Orllewinol y Llyn nac Heol Ddwyreiniol y Llyn.<\/p>\n<h3>A fydd angen mesurau rheoli traffig yn naill ai Heol Orllewinol y Llyn neu Heol Ddwyreiniol y Llyn wrth i\u2019r gwaith gael ei wneud?<\/h3>\n<p>Mae&#8217;n debygol y bydd angen mesurau rheoli traffig ar adegau. Gan y bydd angen i draffig adeiladu a cherbydau dosbarthu fynd i mewn i&#8217;r parc a&#8217;i adael, efallai y bydd angen mesurau rheoli traffig er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr y parc, y cyhoedd a staff adeiladu.<\/p>\n<h3>A fydd y parc yn cael ei gloi yn y nos?<\/h3>\n<p>Bydd mannau gwaith yn cael eu ffensio er diogelwch. Efallai y bydd angen cloi&#8217;r gatiau dros nos dros dro, ac os felly byddwn yn darparu manylion pan fyddant ar gael.[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][vc_tta_section title=&#8221;Newidiadau i\u2019r ardal&#8221; tab_id=&#8221;changes&#8221;][vc_column_text]<\/p>\n<h2>Beth allai\u2019r effeithiau ar fywyd gwyllt a choed lleol fod?<\/h2>\n<p>Bydd yr effeithiau ar fywyd gwyllt a choed lleol yn cael eu lleihau cymaint \u00e2 phosibl. Mae ecolegwyr eisoes wedi cynnal rhai arolygon a bydd arolygon pellach yn cael eu cynnal wrth i&#8217;r cynllun fynd rhagddo a thrwy gydol y gwaith adeiladu. Bydd cynllun rheoli amgylcheddol yn cael ei ddatblygu gan y contractwr ar gyfer y cyfnod adeiladu. Bydd mesurau lliniaru\u2019n cael eu hystyried fel rhan o&#8217;r datblygiad dylunio; er enghraifft, caiff tramwyfa llysywod ei chynnwys yn rhan o\u2019r gorlifan. Mae&#8217;n debygol y bydd angen gwaredu rhai coed. Os bydd unrhyw golledion coed, bydd y nifer newydd a blannir yn yr ardal leol yn fwy na&#8217;r nifer a gollir. Mae&#8217;n bosib na fydd modd ail-blannu coed yn eu lleoliad gwreiddiol oherwydd y cynnydd yn \u00f4l troed y gorlifan a gofynion diogelwch yr argae.<\/p>\n<h3>A fydd y gwaith yn golygu bod uchder y d\u0175r yn y llyn yn cynyddu?<\/h3>\n<p>Nid oes bwriad i newid lefel na maint presennol y llyn. Mae lefel y d\u0175r yn cael ei osod gan y gored. Bydd cyfnodau sych hir yn peri i\u2019r lefel ostwng; bydd glaw trwm a stormydd yn gwneud iddi godi.<\/p>\n<h3>A fydd ansawdd y d\u0175r yn cael ei brofi ar gyfer iechyd a diogelwch?<\/h3>\n<p>Bydd profion d\u0175r yn cael eu cynnal yn ystod y cam adeiladu at ddibenion iechyd a diogelwch ac ar gyfer diogelwch amgylcheddol a rheoli llygredd.<\/p>\n<h3>A fydd y dirwedd yn newid o ganlyniad i&#8217;r gwaith?<\/h3>\n<p>Y bwriad yw gwneud cyn lleied o newidiadau \u00e2 phosibl i&#8217;r dirwedd.<\/p>\n<h3>A fydd unrhyw welliannau i fioamrywiaeth lleol?<\/h3>\n<p>Gweithredir mesurau lliniaru ar gyfer unrhyw fioamrywiaeth pwysig y terfir arni. Nid yw gwelliannau posibl wedi&#8217;u trafod eto.<\/p>\n<h3>Pa led a hyd fydd y gorlifan newydd?<\/h3>\n<p>Am fanylion dyluniad arfaethedig y gorlifan, gweler ein <a href=\"https:\/\/storymaps.arcgis.com\/stories\/18698ca1ec09414aba1017029037beef\">deunydd ymgysylltu diweddaraf<\/a>.<\/p>\n<h3>A gaiff uchder yr argae ei chodi?<\/h3>\n<p>Nid ydym yn bwriadu codi uchder yr argae.<\/p>\n<h3>A fydd yr argae yn cael ei wneud yn ehangach?<\/h3>\n<p>Nid ydym yn bwriadu gwneud yr argae yn ehangach na newid ei si\u00e2p cyffredinol.[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][vc_tta_section title=&#8221;Ymgysylltu \u00e2\u2019r Gymuned a Rhanddeiliaid&#8221; tab_id=&#8221;engagement&#8221;][vc_column_text]<\/p>\n<h3>Sut a phryd yr ymgysylltir \u00e2 chymunedau lleol a rhanddeiliaid?<\/h3>\n<p>Cynhaliwyd cam cyntaf o ymgysylltu ym mis Hydref 2021 a dyma gyflwyno&#8217;r cynllun i&#8217;r gymuned cyn i&#8217;r gwaith ymchwilio tir ddigwydd ym mis Tachwedd 2021.<\/p>\n<p>Cynhaliwyd ail gam ymgysylltu ym mis Rhagfyr 2022 a dyma gyflwyno&#8217;r opsiwn a ffefrir i&#8217;r gymuned. <a href=\"https:\/\/storymaps.arcgis.com\/stories\/18698ca1ec09414aba1017029037beef\">Gellir gweld deunydd o&#8217;r ymgysylltiad hwn ar-lein<\/a>.<\/p>\n<p>Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda&#8217;r gymuned leol i sicrhau eu bod yn deall y gwaith fydd ei angen. Bydd ymgynghoriad cyn ymgeisio cyn cyflwyno&#8217;r cais cynllunio, er mwyn rhoi cyfle i&#8217;r gymuned a rhanddeiliaid roi adborth ar y cynigion.<\/p>\n<h3>Sut bydd y gymuned a rhanddeiliaid yn cael adborth ac yn cael gwybod am gynnydd y prosiect?<\/h3>\n<p>Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os ydych angen mwy o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch \u00e2 th\u00eem y prosiect dros y ff\u00f4n,\u00a0<a href=\"tel:02920130061\">02920 130 061<\/a>, neu e-bostiwch\u00a0<a href=\"mailto:roathparkdam@grasshopper-comms.co.uk\">roathparkdam@grasshopper-comms.co.uk<\/a><\/p>\n<p>Bydd diweddariadau\u2019n cael eu cyhoeddi ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Cyngor Caerdydd a&#8217;r wefan hon, yn ogystal \u00e2 chyhoeddi cylchlythyr diweddariadau i&#8217;r rhai sy&#8217;n byw yn agos at y safle.<\/p>\n<h3>Pwy yr ymgynghorir \u00e2 nhw am y prosiect?<\/h3>\n<p>Rydym wedi cynnal ymarfer mapio rhanddeiliaid helaeth sy&#8217;n nodi rhanddeiliaid allweddol yn y gymuned y dylid ymgysylltu \u00e2 nhw.<\/p>\n<p>Mae parth ymgynghori graidd wedi&#8217;i ddiffinio gyda 4831 o aelwydydd a 59 o fusnesau ar y strydoedd o amgylch Parc y Rhath a&#8217;r tir hamdden.<\/p>\n<p>Mae Grasshopper Communications yn arwain ymgysylltiadau \u00e2 rhanddeiliaid rhanbarthol a lleol gan gynnwys y sectorau canlynol: treftadaeth, hamdden ac awyr agored, ffydd, gwasanaethau cyhoeddus, cyfleustodau a seilwaith, yr amgylchedd a chynaliadwyedd, twristiaeth a datblygu economaidd, addysg bellach a phrifysgolion, trafnidiaeth, busnesau lleol, cyfleusterau cymunedol, ysgolion, grwpiau cymunedol a chydraddoldeb.<\/p>\n<p>Mae Cyngor Caerdydd yn arwain ymgysylltiadau \u00e2 rhanddeiliaid gwleidyddol gan gynnwys Aelodau Senedd y DU, Aelodau Senedd Cymru a chynghorwyr wardiau.<\/p>\n<p>Defnyddir datganiadau i&#8217;r wasg, ymgyrch cyfryngau cymdeithasol a phosteri yn y parc i hysbysu cymuned ehangach Caerdydd a\u2019r tu hwnt.<\/p>\n<h3>Sut caiff barn y gymuned a rhanddeiliaid ei hystyried?<\/h3>\n<p>Rydym yn croesawu adborth am y prosiect a byddwn yn ceisio mynd i&#8217;r afael \u00e2 materion sy&#8217;n codi. Bydd yr adborth a gyflwynir yn cael ei ystyried cyn cyflwyno&#8217;r caniat\u00e2d cynllunio.[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][vc_tta_section title=&#8221;Gwaith ac effeithiau ehangach&#8221; tab_id=&#8221;enhangach&#8221;][vc_column_text]<\/p>\n<h3>A fyddwch yn cynnal ymyl y llyn fel rhan o&#8217;r gwaith?<\/h3>\n<p>Nid yw hyn yng nghylch gwaith y prosiect. Os hoffech drafod cynnal a chadw&#8217;r parc anfonwch e-bost atom yn <a href=\"mailto:parciau@caerdydd.gov.uk\">parciau@caerdydd.gov.uk<\/a>.<\/p>\n<h3>A fydd ochrau cerrig y nant sydd i&#8217;r de o&#8217;r gorlifan yn cael eu cynnal fel rhan o&#8217;r gwaith?<\/h3>\n<p>Gellir gwneud atgyweiriadau o amgylch pen isaf y gorlifan tuag at y cwrs d\u0175r naturiol. Mae unrhyw beth pellach i lawr yr afon o&#8217;r pwynt hwn y tu allan i gylch gwaith y cynllun hwn.<\/p>\n<h3>A fydd y gwaith yn cynnwys llusgrwydo ymhellach i lawr yr afon ger Gerddi Waterloo?<\/h3>\n<p>Nid oes unrhyw gynlluniau i wneud hyn fel rhan o&#8217;r cynllun hwn.<\/p>\n<h3>A fydd gwaith yn cael ei wneud i fyny&#8217;r afon o&#8217;r llyn neu ar y gorlifan?<\/h3>\n<p>Nid yw cyfleoedd i deneuo llifau i fyny&#8217;r afon wedi profi&#8217;n addas ac nid ydynt yn cael eu datblygu.<\/p>\n<h3>A fydd perygl llifogydd yn yr ardal yn cael ei effeithio gan y gwaith arfaethedig?<\/h3>\n<p>Prif nod y cynllun yw gwneud y gwelliannau angenrheidiol er mwyn sicrhau bod llifogydd eithafol yn cael pasio drwy\u2019r argae\u2019n ddiogel. Mae&#8217;n canolbwyntio ar ddiogelwch yr argae a&#8217;r boblogaeth i lawr yr afon, a&#8217;r cwmpas yw peidio \u00e2 lleihau&#8217;r risg o lifogydd i lawr yr afon.<\/p>\n<p>Yn rhan o&#8217;r cais cynllunio, bydd angen llunio Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd (AGLl). Yn rhan o broses ymgeisio&#8217;r AGLl, bydd angen i nid ddangos y byddem yn gallu rheoli unrhyw effeithiau ar lifogydd i lawr yr afon o ganlyniad i waith gwella\u2019r argae. Mae\u2019r dyluniad yn cael ei ddatblygu yn unol \u00e2 gofynion TAN15, sef nodyn cyngor technegol y Llywodraeth ar gyfer datblygu a pherygl o lifogydd.<\/p>\n<h3>Beth yw&#8217;r effeithiau ar y cronfeydd d\u0175r i fyny&#8217;r afon (h.y. Llanisien a Llys-faen)?<\/h3>\n<p>Mae cronfeydd d\u0175r Llanisien a Llys-faen yn gronfeydd nad ydynt yn cronni ac ni fydd y gwaith yn effeithio arnynt.[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][vc_tta_section title=&#8221;Gwybodaeth Ychwanegol&#8221; tab_id=&#8221;information&#8221;][vc_column_text]<\/p>\n<h3>Beth yw effeithiau hirdymor y newid yn yr hinsawdd yn yr ardal?<\/h3>\n<p>Bydd y newid yn yr hinsawdd yn cael effaith sylweddol ar lifogydd yng Nghymru.\u00a0 Mae stormydd yn debygol o ddigwydd yn amlach ac o fod yn fwy difrifol, a fyddai&#8217;n gofyn i orlifan yr argae pasio llifogydd eithafol yn ddiogel.<\/p>\n<h3>A yw&#8217;r argae yn strwythurol ddiogel?<\/h3>\n<p>Ydy, nid oes unrhyw bryderon ynghylch sefydlogrwydd yr argae.<\/p>\n<h3>Ble mae ffynhonnell Nant Fawr a ble mae&#8217;n dod i ben?<\/h3>\n<p>Mae Nant Fawr yn dechrau ychydig i&#8217;r gogledd o&#8217;r M4 uwchben Caerdydd ac yn llifo i Nant Lleucu, yna i mewn i Afon Rhymni, cyn llifo i Aber Afon Hafren.<\/p>\n<h3>Beth yw Deddf Cronfeydd D\u0175r (1975)?<\/h3>\n<p>Rheoleiddir cronfeydd d\u0175r yng Nghymru a Lloegr dan Ddeddf Cronfeydd D\u0175r (1975), a orfodir gan Gyfoeth Naturiol Cymru yng Nghymru. Mae&#8217;r Ddeddf yn bodoli i ddiogelu\u2019r cyhoedd trwy leihau&#8217;r risg o dd\u0175r yn cael ei ryddhau heb reolaeth o gronfeydd d\u0175r mawr, wedi\u2019u codi a&#8217;r llifogydd peryglus y gall hyn eu hachosi.<\/p>\n<h3>Pam mae angen i ni reoli perygl llifogydd a diogelwch argaeau?<\/h3>\n<p>Mae Parc y Rhath yn fan cyhoeddus sy&#8217;n cael ei ddefnyddio&#8217;n helaeth. Mae gwneud gwaith gwella yn sicrhau diogelwch yr argae ac yn lleihau&#8217;r perygl o lifogydd o doriad heb reolaeth. Bydd rheoli perygl llifogydd yn sicrhau effeithiolrwydd yr argae yn y dyfodol, gan ddiogelu bywydau a bywoliaethau o ganlyniad, a sicrhau y gall cenedlaethau&#8217;r dyfodol fwynhau un o barciau mwyaf poblogaidd Caerdydd yn ddiogel.<\/p>\n<h3>Pwy sy&#8217;n gyfrifol am reoli diogelwch yr argae?<\/h3>\n<p>Mae Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am gynnal a chadw&#8217;r argae ac mae&#8217;n ofynnol iddo ymgymryd ag archwiliadau rheolaidd o\u2019r argae a\u2019r gorlifan (o dan Ddeddf Cronfeydd D\u0175r 1975).<\/p>\n<h3>Beth fydd yn digwydd os na fydd y gwaith gwella i&#8217;r argae yn cael ei wneud?<\/h3>\n<p>Diben y gwaith yw gwella gallu\u2019r gronfa dd\u0175r i hwyluso llif diogel d\u0175r llifogydd trwyddi ac atal d\u0175r rhag cael ei ryddhau heb reolaeth a allai beryglu&#8217;r rheiny i lawr yr afon. Os na wneir y gwaith, mewn digwyddiad llifogydd eithafol gallai fod difrod i&#8217;r argae gan achosi i dd\u0175r y llyn gael ei ryddhau a hefyd lifogydd sylweddol cynyddol mewn ardaloedd i lawr yr afon.<\/p>\n<h3>A ddyluniwyd Llyn Parc y Rhath i&#8217;w defnyddio ar gyfer d\u0175r yfed?<\/h3>\n<p>Adeiladwyd y gronfa dd\u0175r i fod yn amwynder, nid ar gyfer cyflenwad d\u0175r, ac nid yw\u2019r d\u0175r erioed wedi&#8217;i dynnu ohoni at ddiben yfed.[\/vc_column_text][vc_column_text][\/vc_column_text][\/vc_tta_section][\/vc_tta_accordion][\/vc_column][\/vc_row][vc_row][vc_column width=&#8221;1\/1&#8243;][vc_column_text]<\/p>\n<h2>Cadw mewn cysylltiad<\/h2>\n<p>Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y prosiect neu os hoffech dderbyn diweddariadau rheolaidd amdano, cysylltwch \u00e2 th\u00eem y prosiect ar y ff\u00f4n, <a href=\"tel:02920130061\">02920 130 061<\/a>, neu dros e-bost <a href=\"mailto:roathparkdam@grasshopper-comms.co.uk\">roathparkdam@grasshopper-comms.co.uk<\/a>[\/vc_column_text]<div class=\"single_image wpb_content_element align-left    \" data-animation=\"none\" data-delay=\"0\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1900\" height=\"950\" src=\"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/wp-content\/uploads\/RoathParkDrone.jpg\" class=\"attachment-full\" alt=\"Roath park\" title=\"\" srcset=\"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/wp-content\/uploads\/RoathParkDrone.jpg 1900w, https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/wp-content\/uploads\/RoathParkDrone-300x150.jpg 300w, https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/wp-content\/uploads\/RoathParkDrone-1024x512.jpg 1024w, https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/wp-content\/uploads\/RoathParkDrone-768x384.jpg 768w, https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/wp-content\/uploads\/RoathParkDrone-1536x768.jpg 1536w, https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/wp-content\/uploads\/RoathParkDrone-1000x500.jpg 1000w\" sizes=\"auto, (max-width: 1900px) 100vw, 1900px\" \/><\/div>[\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>[vc_row][vc_column width=&#8221;1\/1&#8243;][vc_column_text] Datblygu opsiynau i sicrhau ei effeithiolrwydd yn y dyfodol Mae Llyn Parc y Rhath yn gronfa dd\u0175r gafodd ei chreu drwy osod argae i&#8217;r de a\u2019i bwydo gan Nant Fawr. Mae Cyngor Caerdydd yn gyfreithiol gyfrifol am gynnal Argae Parc y Rhath, sy&#8217;n eiddo cyhoeddus, ac mae archwiliadau rheolaidd yn ofynnol o dan Ddeddf Cronfeydd D\u0175r (1975). Canfu&#8217;r archwiliad diweddaraf ar y gronfa na fyddai gorlifan yr argae\u2019n ddigon mawr i wrthsefyll llifogydd eithafol a allai, yn ddamcaniaethol, ddigwydd, ac felly mae angen gwelliannau. [\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row][vc_column bg_image=&#8221;5842&#8243; width=&#8221;1\/4&#8243;][\/vc_column][vc_column width=&#8221;3\/4&#8243;][vc_column_text el_id=&#8221;links&#8221;] Datblygu ein cynigion Penodwyd Arup, cwmni ymgynghori peirianneg blaenllaw, i gynnal astudiaeth i archwilio&#8217;r opsiynau gorau o ran sicrhau effeithiolrwydd yr argae yn y dyfodol a sicrhau y gall cenedlaethau&#8217;r dyfodol fwynhau un o barciau mwyaf poblogaidd Caerdydd yn ddiogel. Mae Arup bellach wedi cwblhau&#8217;r astudiaeth fanwl sydd wedi asesu amrywiol opsiynau i fynd i&#8217;r afael \u00e2 chapasiti\u2019r gorlifan ac wedi nodi\u2019r datrysiad a ffefrir ganddynt. Ym mis Rhagfyr 2022 cyflwynwyd y datrysiad dewisol hwn i&#8217;r gymuned a rhanddeiliaid drwy gyfres o ddigwyddiadau gan gynnwys gweminarau a sesiynau galw heibio. Gellir gweld deunydd o&#8217;r ymgysylltu hwn ar-lein. Disgwylir i&#8217;r holl ddyddiadau a gynhwysir newid wrth i&#8217;r prosiect ddatblygu. Ewch [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":16,"featured_media":0,"parent":5847,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-5878","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Prosiect Argae Parc y Rhath - Outdoor Cardiff<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/parciau\/parc-y-rhath\/prosiect-argae-parc-y-rhath\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Prosiect Argae Parc y Rhath - Outdoor Cardiff\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"[vc_row][vc_column width=&#8221;1\/1&#8243;][vc_column_text] Datblygu opsiynau i sicrhau ei effeithiolrwydd yn y dyfodol Mae Llyn Parc y Rhath yn gronfa dd\u0175r gafodd ei chreu drwy osod argae i&#8217;r de a\u2019i bwydo gan Nant Fawr. Mae Cyngor Caerdydd yn gyfreithiol gyfrifol am gynnal Argae Parc y Rhath, sy&#8217;n eiddo cyhoeddus, ac mae archwiliadau rheolaidd yn ofynnol o dan Ddeddf Cronfeydd D\u0175r (1975). Canfu&#8217;r archwiliad diweddaraf ar y gronfa na fyddai gorlifan yr argae\u2019n ddigon mawr i wrthsefyll llifogydd eithafol a allai, yn ddamcaniaethol, ddigwydd, ac felly mae angen gwelliannau. [\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row][vc_column bg_image=&#8221;5842&#8243; width=&#8221;1\/4&#8243;][\/vc_column][vc_column width=&#8221;3\/4&#8243;][vc_column_text el_id=&#8221;links&#8221;] Datblygu ein cynigion Penodwyd Arup, cwmni ymgynghori peirianneg blaenllaw, i gynnal astudiaeth i archwilio&#8217;r opsiynau gorau o ran sicrhau effeithiolrwydd yr argae yn y dyfodol a sicrhau y gall cenedlaethau&#8217;r dyfodol fwynhau un o barciau mwyaf poblogaidd Caerdydd yn ddiogel. Mae Arup bellach wedi cwblhau&#8217;r astudiaeth fanwl sydd wedi asesu amrywiol opsiynau i fynd i&#8217;r afael \u00e2 chapasiti\u2019r gorlifan ac wedi nodi\u2019r datrysiad a ffefrir ganddynt. Ym mis Rhagfyr 2022 cyflwynwyd y datrysiad dewisol hwn i&#8217;r gymuned a rhanddeiliaid drwy gyfres o ddigwyddiadau gan gynnwys gweminarau a sesiynau galw heibio. Gellir gweld deunydd o&#8217;r ymgysylltu hwn ar-lein. Disgwylir i&#8217;r holl ddyddiadau a gynhwysir newid wrth i&#8217;r prosiect ddatblygu. Ewch [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/parciau\/parc-y-rhath\/prosiect-argae-parc-y-rhath\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Outdoor Cardiff\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-06-20T08:36:06+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/wp-content\/uploads\/2016\/04\/OutdoorLogo.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"430\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"95\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"10 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/parciau\/parc-y-rhath\/prosiect-argae-parc-y-rhath\/\",\"url\":\"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/parciau\/parc-y-rhath\/prosiect-argae-parc-y-rhath\/\",\"name\":\"Prosiect Argae Parc y Rhath - Outdoor Cardiff\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/#website\"},\"datePublished\":\"2021-08-06T13:15:20+00:00\",\"dateModified\":\"2024-06-20T08:36:06+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/parciau\/parc-y-rhath\/prosiect-argae-parc-y-rhath\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/parciau\/parc-y-rhath\/prosiect-argae-parc-y-rhath\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/parciau\/parc-y-rhath\/prosiect-argae-parc-y-rhath\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Hafan\",\"item\":\"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/croeso-i-awyr-agored-caerdydd-2\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Parciau yng Nghaerdydd\",\"item\":\"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/parciau\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Parc y Rhath\",\"item\":\"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/parciau\/parc-y-rhath\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":4,\"name\":\"Prosiect Argae Parc y Rhath\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/\",\"name\":\"Outdoor Cardiff\",\"description\":\"Explore Cardiff&#039;s trails\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Prosiect Argae Parc y Rhath - Outdoor Cardiff","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/parciau\/parc-y-rhath\/prosiect-argae-parc-y-rhath\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Prosiect Argae Parc y Rhath - Outdoor Cardiff","og_description":"[vc_row][vc_column width=&#8221;1\/1&#8243;][vc_column_text] Datblygu opsiynau i sicrhau ei effeithiolrwydd yn y dyfodol Mae Llyn Parc y Rhath yn gronfa dd\u0175r gafodd ei chreu drwy osod argae i&#8217;r de a\u2019i bwydo gan Nant Fawr. Mae Cyngor Caerdydd yn gyfreithiol gyfrifol am gynnal Argae Parc y Rhath, sy&#8217;n eiddo cyhoeddus, ac mae archwiliadau rheolaidd yn ofynnol o dan Ddeddf Cronfeydd D\u0175r (1975). Canfu&#8217;r archwiliad diweddaraf ar y gronfa na fyddai gorlifan yr argae\u2019n ddigon mawr i wrthsefyll llifogydd eithafol a allai, yn ddamcaniaethol, ddigwydd, ac felly mae angen gwelliannau. [\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row][vc_column bg_image=&#8221;5842&#8243; width=&#8221;1\/4&#8243;][\/vc_column][vc_column width=&#8221;3\/4&#8243;][vc_column_text el_id=&#8221;links&#8221;] Datblygu ein cynigion Penodwyd Arup, cwmni ymgynghori peirianneg blaenllaw, i gynnal astudiaeth i archwilio&#8217;r opsiynau gorau o ran sicrhau effeithiolrwydd yr argae yn y dyfodol a sicrhau y gall cenedlaethau&#8217;r dyfodol fwynhau un o barciau mwyaf poblogaidd Caerdydd yn ddiogel. Mae Arup bellach wedi cwblhau&#8217;r astudiaeth fanwl sydd wedi asesu amrywiol opsiynau i fynd i&#8217;r afael \u00e2 chapasiti\u2019r gorlifan ac wedi nodi\u2019r datrysiad a ffefrir ganddynt. Ym mis Rhagfyr 2022 cyflwynwyd y datrysiad dewisol hwn i&#8217;r gymuned a rhanddeiliaid drwy gyfres o ddigwyddiadau gan gynnwys gweminarau a sesiynau galw heibio. Gellir gweld deunydd o&#8217;r ymgysylltu hwn ar-lein. Disgwylir i&#8217;r holl ddyddiadau a gynhwysir newid wrth i&#8217;r prosiect ddatblygu. Ewch [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/parciau\/parc-y-rhath\/prosiect-argae-parc-y-rhath\/","og_site_name":"Outdoor Cardiff","article_modified_time":"2024-06-20T08:36:06+00:00","og_image":[{"width":430,"height":95,"url":"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/wp-content\/uploads\/2016\/04\/OutdoorLogo.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"10 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/parciau\/parc-y-rhath\/prosiect-argae-parc-y-rhath\/","url":"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/parciau\/parc-y-rhath\/prosiect-argae-parc-y-rhath\/","name":"Prosiect Argae Parc y Rhath - Outdoor Cardiff","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/#website"},"datePublished":"2021-08-06T13:15:20+00:00","dateModified":"2024-06-20T08:36:06+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/parciau\/parc-y-rhath\/prosiect-argae-parc-y-rhath\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/parciau\/parc-y-rhath\/prosiect-argae-parc-y-rhath\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/parciau\/parc-y-rhath\/prosiect-argae-parc-y-rhath\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Hafan","item":"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/croeso-i-awyr-agored-caerdydd-2\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Parciau yng Nghaerdydd","item":"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/parciau\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Parc y Rhath","item":"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/parciau\/parc-y-rhath\/"},{"@type":"ListItem","position":4,"name":"Prosiect Argae Parc y Rhath"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/#website","url":"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/","name":"Outdoor Cardiff","description":"Explore Cardiff&#039;s trails","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5878","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/16"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5878"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5878\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7861,"href":"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5878\/revisions\/7861"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5847"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5878"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}