Parc Fictoria

Ynglŷn â Parc Fictoria

Parc Fictoria yw un o hoff barciau traddodiadol Caerdydd. Agorwyd ym 1897 , mae’r parc ym maestref gorllewinol Treganna. Mae ei forderi blodau ac ystod eang o gyfleusterau’n apelio at bobl o bob oed trwy’r flwyddyn.

Bu’r parc yn un o’r cyntaf yn y DU i gael grant adfer gan Gronfa Treftadaeth y Loteri ym 1995.

Mae Parc Fictoria yn un o barciau Baner Werdd y ddinas.

Gwybodaeth i ymwelwyr

Mae’r parc ar agor o 7.30am tan 30 munud cyn y machlud trwy’r flwyddyn.

Parcio: Nid oes man parcio penodol – mae parcio ar y stryd ar gael yn y strydoedd o amgylch y parc.

Nodweddion

  • Parc hanesyddol rhestredig Gradd 2: Mae’r parc ar gofrestr Cadw o Dirluniau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru.
  • Stand bandiau haearn bwrw: Fe’i gosodwyd yn wreiddiol ym mis Chwefror 1897 a gosodwyd copi wedi ei ail-fwrw ym 1996.
  • Canopi pistyll haearn bwrw: Fe’i cyflwynwyd gan I. Samuel Ysw er cof am ei rieni a’i frawd, Louis Samuel, AS, ym 1908; mae hwn yn un o nifer a gyflwynodd i barciau rhwng 1907 a 1915. Cafodd y canopi ei adfer a’i adleoli i’w safle presennol ym 1996.
  • Cerflun Billy’r morlo: Cerflun efydd a grëwyd ym 1997 gan yr artist David Petersen, sy’n coffau Sŵ Parc Fictoria a thrigolyn enwocaf y parc.

Cyfleusterau

  • Cae chwarae ar gyfer plant hyd at tua 12 oed
  • Ardal chwarae sblasio i blant: Ar agor yn dymhorol – ceir y manylion isod
  • Clwb Pêl Foli Traeth
  • Ardal gemau aml-ddefnydd: ar agor trwy’r flwyddyn – dim cost
  • Ciosg lluniaeth Ar agor trwy’r flwyddyn
  • Cyrtiau tenis: ar agor trwy’r flwyddyn – heb gost
  • Toiledau cyhoeddus a cyfleusterau newid cewynnau: ger y man chwarae i blant.

Pad sblasio

Mae 33 nodwedd cyffrous i blant eu mwynhau ym Mhad Sblasio Parc Fictoria, lle’r oedd padlo’r parc gynt. Mae’r nodweddion yn cynnwys:

  • chwistrelli
  • ffrydiau dŵr
  • bwced arllwys dŵr
  • twnel

Mae’r rhain mewn tair ardal ar gyfer:

  • plant bach,
  • plant iau,
  • teuluoedd

Mae hyn o gyd o fewn safle prydferth y parc gradd 2 rhestredig.​

Cafodd y Pad Sblasio ei ddylunio a’i adeiladu gan arbenigwyr Ustigate Waterplay Ltd. a bydd yn rhoi mwy o hygyrchedd a mwynhad i blant o bob oed.

Bydd y pad sblasio’n cau ar 3 Medi tan iddo ailagor yng ngwanwyn 2024.
Ni fydd y Splashpad ar agor yn ystod cyfnodau hir o dywydd garw.
Oriau agor y pad sblasio
Yn ystod y tymor neu wyliau’r ysgol Agor Cau
Penwythnos 10am 7pm
Dyddiau’r wythnos (yn ystod y tymor) 12pm 7pm
Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau, Dydd Gwener (gwyliau’r ysgol) 10am 7pm
Dydd Mercher (gwyliau’r ysgol) 11am 7pm

 

Sesiynau hamddenol i blant ag anghenion ychwanegol
Yn ystod y tymor neu wyliau’r ysgol Agor Cau
Dydd Mercher (yn ystod y tymor) 11am 12pm
Dydd Mercher (gwyliau’r ysgol) 10am 11am

Sut i ddod o hyd i ni

Dod o hyd i ni
Pwynt mynediad GPS (lledred / hydred)
Prif fynedfa (Victoria Park Road East – hefyd ar gyfer danfon nwyddau) 51.486082, -3.216633
Gât y dwyrain (Victoria Park Road East) 51.484284, -3.217405
Gât y de ddwyrain (Heol Ddwyreiniol y Bont Faen) 51.482902, -3.217564
Gât y gorllewin (Victoria Park Road West) 51.484353, -3.219916
Gât y de orllewin (Heol Ddwyreiniol y Bont Faen) 51.483145, -3.219026
Gât y gogledd orllewin (Thompsons Avenue) 51.486204, -3.220584

What3words: moons.sports.trip

Darganfod y parc

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd