Gerddi Grange

Ynglŷn â Gerddi Grange

Agorwyd Gerddi Grange , parc bychan Fictorianaidd deniadol yng nghalon Grangetown ym 1895. Ym 1998, wedi blynyddoedd o fynd â’i ben iddo, cafodd y safle arian gan Gronfa Treftadaeth y Loteri er mwyn ei adfer, a chwblhawyd y gwaith yn 2000. Mae’r parc bellach yn cynnwys ystod dda o gyfleusterau hamdden awyr agored lleol, ond mae’n cadw ei gymeriad hanesyddol.

Mae Gerddi Grange yn un o barciau Baner Werdd Caerdydd .

Gwybodaeth i ymwelwyr

Mae’r parc ar agor i’r cyhoedd 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.

Parcio ar gael ar y strydoedd o amgylch y parc.

Nodweddion

Grange gardens gate
  • Parc hanesyddol rhestredig Gradd 2: Mae’r parc ar Gofrestr Cadw o Dirluniau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru.
  • Stand bandiau haearn bwrw Fe’i gosodwyd yn wreiddiol ym mis Chwefror 1895 a gosodwyd copi wedi ei ail-fwrw yn 2000.
  • Canopi pistyll haearn bwrw Cyflwynwyd y gwreiddiol gan I. Samuel Ysw. er cof am ei rieni a’i frawd, Louis Samuel, AS ym 1909, yn un o nifer a gyflwynwyd i barciau rhwng 1907 a 1915. Gosodwyd copi wedi ei ail-fwrw yn 2000.
  • Cofeb Rhyfel Grangetown Strwythur rhestredig Gradd II, cyflwynwyd 7 Gorffennaf 1921
  • Caeau’r Canmlwyddiant: mae’r rhan fwyaf o’r parc wedi ei gyflwyno fel Cae’r Canmlwyddiant mewn cydweithrediad â Fields In Trust fel rhan o’u hymgyrch canmlwyddiant i gadw parciau a mannau gwyrdd lle mae cofebau’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Cyfleusterau

  • Cae chwarae i blant ar gyfer plant hyd at tua 12 oed
  • Cae chwarae 3G
  • Caffi cymunedol a chyfleusterau cysylltiedig
  • Toiledau ar gael yn y caffi

Sut i ddod o hyd i ni

Dod o hyd i ni
Pwynt mynediad GPS (lledred / hydred)
Gerddi Grange 51.466986, -3.181683

What3words: fried.likely.factor

Darganfod y parc

Grange Gardens trees
Grange gardens lawn
Grange Gardens paths and benches
Grange Gardens in the sun
Grange Gardens monument
Grange Gardens with monument

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd