Parc Bute

Ynglŷn â Parc Bute

Wedi ei leoli yng nghanol y ddinas, gydag erwau o ofod gwyrdd amrywiol, Parc Bute ydy un o atyniadau ymwelwyr gorau Caerdydd. Mae Parc Bute yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau mawr a bach trwy gydol y flwyddyn.

Tiroedd hamdden Fictoraidd Castell Caerdydd fu’r parc erstalwm, ac mae’n cynnwys Brodordy’r Brodyr Duon (sy’n gofadail hynafol cofrestredig), coedardd odidog a thoreth o bethau o ddiddordeb archeolegol a chadwraeth natur.

Gwybodaeth i ymwelwyr

Mae’r parc ar agor o 7.30am tan 30 munud cyn y machlud.

Ewch i wefan Parc Bute i weld sut mae cyrraedd yno a chael gwybodaeth am y trefniadau agor.

Nodweddion

QR code trail
  • Parc hanesyddol rhestredig Gradd 1: Ynghyd â Chastell Caerdydd, mae ar restr Cadw o Dirluniau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru.
  • Brodordy’r Brodyr Duon: Mae cynllun anarferol y Brodordy canoloesol hwn yn dal i fodoli; cafodd ei gloddio yn hwyr yn y 19eg ganrif gan drydydd Ardalydd Bute a’ ddehongli mewn brics Fictoraidd i ddangos cynllun gwreiddiol yr adeilad.
  • Coedardd Parc Bute: Cafodd ei chreu ym 1947 ac mae’n cynnwys cymysgedd o goed diddorol ac addurniadol. Mae rhai o’r coed hyn yn goed campus, y rhai mwyaf o’u math yn y DU.
  • Wal yr Anifeiliaid: Glanhawyd y tirnod eiconig hwn gan William Burges a gwneud gwaith cadwraeth yn 2010 er mwynhad preswylwyr ac ymwelwyr.
  • Border blodau: Mae border blodau enwog ar hyd Afon Taf.
  • Ffrwd y Felin: Mae llinell hen nant melin a phwll melin ganoloesol, sy’n llifo dan furiau Castell Caerdydd, wedi ei hail-lifogi i adfer gwedd hardd y castell a gwella cymeriad y rhan angof hon o’r parc.
  • Camlas fwydo’r doc: Mae llif araf dyfroedd y gamlas fwydo yn cuddio ei swyddogaeth fel cyflenwad dŵr i Ddociau Caerdydd. Mae’r gamlas yn noddfa i fywyd gwyllt ac mae’n cyferbynnu ag ardaloedd mwy ffufiol y parc.
  • Cerrig yr Orsedd: Er gwaethaf yr olwg hynafol sydd arnynt, at Eisteddfod Genedlaethol 1978 yng Nghaerdydd y cafodd Cerrig yr Orsedd eu codi.
  • Llwybr cerfluniau: Mae cyfres o gerfluniau pren o fonion coed yn y goedardd yn destun diddordeb ar hyd a lled y parc.
  • Y Gored Ddu a’r pas eog: Ym mis Hydref, gwelir eog yn llamu’r gored i fynd i fwrw grawn yn uwch yn yr afon.

Cyfleusterau

Ewch i wefan Parc Bute i gael rhestr lawn o atyniadau.

Sut i ddod o hyd i ni

What3words: food.rooms.cake

Darganfod y parc

Bute park
Bute park garden wall
Bute park from the air
Bute park trees in Autumn
Bute park from the air

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd