Rhesymau i Gerdded
-
-
- Mae cerdded yn gwneud i chi deimlo’n dda oherwydd mae’n rhoi mwy o egni i chi, yn gwella’ch hwyliau ac yn cynyddu eich hyder a’ch stamina.
- Mae cerdded yn lleihau straen, gan eich helpu i ymlacio a chysgu’n well!
- Mae cerdded yn gwella’ch iechyd corfforol drwy gryfhau eich calon, eich esgyrn a’ch cyhyrau, tra’n helpu i leihau pwysedd gwaed uchel a gwella cylchrediad eich calon a’ch ysgyfaint hefyd.Gall cerdded helpu i reoli eich pwysau a helpu i atal a rheoli diabetes.
- Mae cerdded yn rhoi’r cyfle i chi gwrdd â phobl eraill a gall eich helpu i deimlo’n rhan o’ch cymuned.
- Gall bron unrhyw un gerdded ac nid oes angen unrhyw ddillad na chyfarpar arbennig.
- Dylech anelu at gerdded yn gyflym am 30 munud bob dydd, fwy neu lai.
- Nid yw cerdded yn costio dim a gellir ei wneud unrhyw le ar unrhyw adeg.
-
Ffyrdd o ddechrau cerdded
-
-
- Mynd â’r ci am dro
- Cerdded i’r ysgol a cherdded adref gyda’r plant
- Mynd am dro gyda’r teulu er mwyn ymlacio a chymdeithasu
- Cerdded i nôl y papur newydd neu bostio llythyr
-
5 Awgrym Cyflym i baratoi ar gyfer eich taith gerdded
-
-
- Siaradwch â’ch meddyg os oes gennych unrhyw bryderon am eich iechyd.
- Gwisgwch bâr da o esgidiau sy’n gyfforddus a chadarn ac nad ydynt yn achosi pothellau.
- Mae gwisgo dillad sy’n ffitio’n rhydd yn eich galluogi i symud yn haws, a dylech wisgo nifer o haenau o ddillad er mwyn i chi allu eu gwisgo neu eu tynnu yn unol â’r tywydd.
- Gall y tywydd yng Nghymru amrywio’n fawr, felly byddwch yn barod am law neu hindda!
- Ewch â diod ac ychydig o fwyd gyda chi er mwyn torri syched a rhoi hwb i’ch egni ar hyd y ffordd.
-