11/02/2023 10:00 am - 11:45 am
Fferm y Fforest
Ymunwch â’r Ceidwaid Parc Cymunedol ym Mharc Gwledig Fferm y Fforest i wella’ch sgiliau adnabod adar, i ddysgu am ecoleg hynod ddiddorol yr adar lleol, ac i ddarganfod pam fod gwylio adar yn hobi gwerth chweil ac yn cynnig cymaint o foddhad!
Ar y daith gerdded hon, fe wnawn ni rannu cynghorion a thriciau gwych â chi er mwyn gwella eich sgiliau gwylio adar. Yn ystod y sesiwn hon byddwn yn rhoi sylw I’r canlynol:
- Strwythur
- Edrychiad
- Ymddygiad
- Sain
Byddwn hefyd yn eich cyfeirio at y llyfrau a’r adnoddau gorau i wella eich sgiliau ymhellach yn y dyfodol.
Mae’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ac ar gyfer oedolion. Mi fydd yn rhaid i bobl dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn. 10 tocyn sydd ar gael.
Sicrhewch eich bod yn gwisgo dillad cerdded addas. Gallwn ddarparu binociwlars.
Byddwn yn cyfarfod yn y lleoliad canlynol y gallwch ddod o hyd iddo ar wefan what3words: ///moons.sailor.coherent
Welwn ni chi yna!
Location
Comments are closed.