Canmlwyddiant Caerdydd
Centenary walk plaque

Mae Llwybr Canmlwyddiant Caerdydd yn mynd heibio rhai o atyniadau enwocaf a mwyaf hanesyddol y ddinas, ynghyd â datgelu ambell i gyfrinach. Os ydych chi wedi byw yng Nghaerdydd erioed, neu’n ymwelydd, rydych chi’n sicr o ddysgu rhywbeth na wyddoch chi cynt.

Lawrlwythwch llyfr canllaw (891kb PDF)

Lawrlwytho Map (365kb JPG)

Welsh National War Memorial
Cardiff Market
St Mary Street/High Street
Friary Gardens

Ar y ffordd…

1. Yr Hen Lyfrgell

Agorodd yr adeilad hwn yn 1882 fel “Llyfrgell, Amgueddfa ac Ysgol Gelfyddydau am Ddim”. Gweler y geiriau Cymraeg yn uchel ar ochr ddeheuol yr adeilad.

Os edrychwch chi yn ôl ar yr adeilad o’r man stopio nesaf, fe sylwch chi nad yw’r adeilad yn hollol gymesur. Cafodd rhan ohono ei ddymchwel er mwyn gallu lledu’r ffordd ar gyfer traffig.

Mynwent Eglwys Sant Ioan

Wrth i chi gerdded drwy’r fynwent i’r man stopio nesaf, chwiliwch am y rhifau efydd ar y palmant. Mae’r rhain yn dangos ble mae plotiau claddu teuluoedd.

Cardiff Market

Cafodd y Farchnad ei hadeiladu gan Solomon Andrews, gŵr busnes lleol, ac fe’i gelwid yn Deml Solomon ar un adeg. Roedd Gwerthwyr Pysgod Ashton’s, gerllaw’r fynedfa, ymhlith y 349 o’r masnachwyr gwreiddiol pan agorwyd y farchnad yn 1891. Mae rhan o’r farchnad ar safle’r hen Garchar Sirol, ac roedd y crocbrenni yn y pen pellaf. Dyma ble crogwyd Dic Penderyn yn gyhoeddus ar 13 Awst 1831 am ei ran honedig yn nherfysgoedd Merthyr dros amodau gwaith.

Edrychwch y tu mewn. Mae gan y Farchnad neuadd â galerïau, a tho o haearn a gwydr gyda thŵr cloc addurnedig yn y canol. Mae’r rhifau haearn gwreiddiol ar rai o’r stondinau.

Trowch i’r dde tuag at yr eglwys.

3. Eglwys Sant Ioan

Dyma’r eglwys hynaf yng nghanol y ddinas ac ar wahân i rannau o Gastell Caerdydd, dywedir mai dyma’r adeilad hynaf yng Nghaerdydd sy’n dal i gael ei ddefnyddio’n rheolaidd. Sefydlwyd yr eglwys yn niwedd y ddeuddegfed ganrif a chafodd ei hailadeiladu mewn arddull berpendicwlar yn y bymthegfed ganrif. Daeth hon yn brif eglwys y ddinas ar ôl i lifogydd ddinistrio Eglwys Fair, sef yr eglwys blwyf wreiddiol, yn 1607.

Y tu mewn fe allwch chi weld cofeb i Sir John Herbert, Ysgrifennydd preifat Elizabeth I a James I, a’i frawd Sir William Herbert, dirprwy raglaw Morgannwg ac un o’r arweinwyr yn y rhyfel gang oedd yn frith drwy Gaerdydd cyn cyfnod Elizabeth. Mae’r gwydr lliw hyfryd yn cynnwys darnau gan William Morris, Ford Maddox Brown ac Edward Burne Jones.

The Owain Glyndŵr

Dyma safle un o dafarndai hynaf Caerdydd, a agorodd am y tro cyntaf yn 1731. Y Tennis Court oedd ei henw ar un adeg, ar ôl y cwrt tenis y tu ôl iddi.

Cerddwch lawr Stryd yr Eglwys.

Yr Old Arcade

Edrychwch o’ch amgylch wrth i chi gerdded lawr Stryd yr Eglwys. Wrth ymyl tafarn yr Old Arcade ar y chwith ceir stryd gefn yr Hen Arcêd, sy’n un o arcedau hynaf Caerdydd. Mae’r arcêd a’r dafarn yn dyddio’n ôl i gyfnod adeiladu marchnad yn 1835, a gafodd ei chau pan agorodd y farchnad bresennol yn 1891.

Rhifau 3 a 4, Stryd yr Eglwys

Ar y dde i chi, mae ffenestri trawiadol llawr cyntaf yr adeiladau gwyn yn rhifau 3 a 4 Stryd yr Eglwys yn dyddio’n ôl i 1829. Capel Methodistiaid Wesleaidd oedd yr adeilad, wedi’i adeiladu ar safle ystafell gyfarfod gyntaf y Wesleaid yng Nghaerdydd. Byddai John Wesley wedi pregethu yno ac mae cofnodion ei ddyddiadur ar gyfer 6 Mai 1743 yn nodi: “Pregethais am un ar ddeg yn yr ystafell newydd y mae’r Gymdeithas wedi’i hadeiladu yng nghanol y dref; ac roedd ein heneidiau oll ynghyd.”

St Mary Street/High Street

Dyma oedd rhan bwysicaf y dref ganoloesol. Ar y chwith i chi mae Heol Eglwys Fair, a enwyd ar ôl y brif eglwys yng Nghaerdydd yn y canol oesoedd. Mae gan Heol Eglwys Fair dreflun Fictoraidd bron i gyd, gyda’r tu blaen cul yn adlewyrchu’r plotiau tir bwrdais canoloesol.

Adeiladwyd yr adeilad lliw hufen ar gornel Stryd yr Eglwys a Heol Eglwys Fair ar gyfer y teulu Richards. Enw gwreiddiol y tŷ oedd Tŷ Cornel a dyna’r unig adeilad bron iawn sy’n dal i oroesi ers y ddeunawfed ganrif.

Ar y dde mae Heol Fawr, prif stryd y fwrdeistref ganoloesol. Rhwng 1337 a’r 1850au bu tair neuadd y dref yn y fan hon hyd nes yr agorwyd neuadd y dref newydd yn Heol Eglwys Fair. Defnyddiwyd lloriau cyntaf neuadd y dref fel llys barn a man cyfarfod ar gyfer y bobl oedd yn gyfrifol am y ddinas, tra defnyddiwyd y llawr isaf fel marchnad. Cynhaliwyd y ffeiriau blynyddol o flaen neuadd y dref.

Banc NatWest

Dros y ffordd fe allwch chi weld Banc NatWest a adeiladwyd ar gyfer y Banc Taleithiol Cenedlaethol yn 1880. Mae ganddo ffasâd Eidalaidd hardd, arcedau ar y llawr isaf a ffenestri pediment ar y llawr cyntaf.

Quay Street

Cafodd y ffordd hon ei henw yn y dyddiau pan oedd hi’n arwain i gei’r dref ar Afon Taf.

Cyn cerdded i lawr, tarwch olwg yn ôl ar y manylion coeth uwchben y fynedfa i Arcêd Heol Fawr.

Womanby St

Mae’n debyg bod yr enw Womanby yn perthyn i’r cyfnod cyn dyfodiad y Normaniaid, a gallai fod gwreiddiau Llychlynnaidd iddo. Y ffurf gynharaf ar yr enw, o 1270, yw Hundmanby – o bosibl yn golygu “cartref ceidwad y cŵn”.

Cyn i chi symud ymlaen, ewch i fyny’r stryd ac edrych drwy’r arch ar y dde. Adeiladwyd Llys Jones yn y 1830au fel bythynnod i weithwyr, ac o blith y 50 o lysoedd cartrefi o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghaerdydd, hwn yw’r unig un sydd ar ôl. Dwy ystafell yn unig oedd yn y tai, ac nid oedd ganddynt gyflenwad dŵr na draeniau, felly roedd haint yn gyffredin. Bu farw 396 o bobl o golera yng Nghaerdydd yn 1849.

Porth Blount

Ar wal y maes parcio, fe welwch chi blac glas yn dangos safle un o byrth y dref. Tan y ddeunawfed ganrif, Porth Wales oedd yr enw arni, cyn y dechreuwyd ei galw’n Borth Blount ar ôl un o geidwaid y porth yng Nghastell Caerdydd. Roedd y porth yn arwain o Heol Eglwys Fair i’r afon, ble safai’r hen gei Rhufeinig. Cafodd ei ddymchwel yn 1785.

7. Stadiwm y Mileniwm

Rydych chi bellach wedi cyrraedd Heol y Porth ac o’ch blaen mae Giatiau 2 a 3 Stadiwm y Mileniwm.

Mae Heol y Porth yn rhedeg ble’r arferai Afon Taf lifo. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y peiriannydd gwych Isambard Kingdom Brunel yn adeiladu Rheilffordd y Great Western tua’r gorllewin, ond roedd y tro hir yn yr afon yn golygu y byddai ei chroesi’n anodd. Felly, ar ôl dod i gytundeb gyda’r teulu Bute, a oedd yn berchen ar y tir, dechreuwyd ar y gwaith i newid cwrs yr afon yn 1849 er mwyn gallu adeiladu pont reilffordd fer. Mae’r bont yn dal i sefyll heddiw.

Gadawodd hyn ddarn anferth o dir wedi’i ailfeddiannu, ac roedd 3ydd Ardalydd Bute yn fodlon iddo gael ei ddefnyddio ar gyfer chwaraeon. Y Parc Mawr oedd yr enw gwreiddiol arno, ond daethpwyd i’w alw’n Barc yr Arfau Caerdydd, ar ôl tafarn goetsys gyfagos.

Criced oedd y chwaraeon cyntaf i’w gynnal yma. Ffurfiwyd Clwb Rygbi Caerdydd yn 1876, ac yma y bu iddynt ymarfer am y tro cyntaf. Mae tenis, hoci, bowliau a rasio milgwn hyd yn oed wedi’u cynnal yma.

Adeiladwyd Stadiwm y Mileniwm ar safle hen stadiwm Parc yr Arfau Caerdydd – gan droi’r maes chwarae 45 gradd – mewn pryd i gynnal Gêm Derfynol Cwpan Rygbi’r Byd yn 1999.

Mae’r stadiwm bellach ymhlith yr enwocaf yn y byd. Dyma gartref rygbi Cymru a chwaraeir llawer o gemau’r tîm pêl-droed cenedlaethol yma. Ymysg nodweddion anghyffredin y Stadiwm mae to symudol, sy’n cymryd rhyw ugain munud i’w agor neu gau, a chae chwarae symudol sy’n golygu y gall y Stadiwm gynnal pob math o ddigwyddiadau eraill, megis rasio beiciau modur, cyngherddau ac arddangosfeydd – a hynny ym mhob tywydd.

Trowch i’r dde a cherdded ar hyd Heol y Porth.

The Angel Hotel

Mae cefnogwyr rygbi drwy’r byd yn gwybod am Westy’r Angel. Am ei fod mor agos i gartref rygbi Cymru, dyma’r man traddodiadol i ymgynnull cyn gemau rhyngwladol.

Bu sawl tafarn yr Angel ar y safle hwn neu’n gyfagos dros y blynyddoedd. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yr USS Chattanooga oedd yr enw arni, gyda Llynges yr UDA yn gyfrifol amdani.

Parc yr Arfau Caerdydd

Ar ochr arall Heol y Porth, fe allwch chi weld Stadiwm Parc yr Arfau heddiw, a adeiladwyd yn 1967. Tan hynny dim ond un stadiwm oedd yma, yn cael ei rhannu rhwng Clwb Rygbi Caerdydd ac Undeb Rygbi Cymru (URC). Heddiw, mae’r maes lleiaf yn gartref i Glwb Rygbi Caerdydd a Gleision Caerdydd.

Yn nechrau’r 1930au, adeiladodd URC eisteddle newydd, o bosibl heb ymgynghori â 4ydd Ardalydd Bute. Dywedir ei fod mor ddig fod yr olygfa oedd ganddo o’r Castell i Benarth wedi’i difetha, nes iddo adeiladu’r fflatiau ar Heol y Porth er mwyn difetha ochr ddwyreiniol y stadiwm.

Cafodd yr eisteddle ei bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd ond cafodd y stadiwm ei hailadeiladu ac roedd yr olygfa i Benarth wedi mynd am byth.

The Animal Wall

Edrychwch dros y stryd fawr. Mae gan y wal sawl anifail wedi’u cerfio o garreg arni – nid pob un fyddai i’w gweld yng Nghaerdydd!

Cynlluniwyd y wal gan y pensaer William Burges yn 1866, er na chafodd ei hadeiladu tan 1890, ac o flaen y Castell oedd hi yn wreiddiol. Pan gafodd y ffordd ei lledu yn 1925, cafodd y wal ei symud i’r fan lle mae hi heddiw.

Trowch i’r dde i Heol y Castell.

West Gate

Dros y ffordd fe welwch chi safle Porth y Gorllewin ble roedd hen wal y dref. Llwyddodd Owain Glyndŵr a’i luoedd, yn ei wrthryfel enwog yn erbyn coron Lloegr, i dorri drwy’r fan hon a chipio’r Castell yn 1404. Ailadeiladwyd Porth y Gorllewin a’r bont dros y dŵr gan Ardalydd Bute yn 1921, a hynny yn ôl y cynllun gwreiddiol.

Stiwdio Radio

Mae’r plac ar y wal wrth eich ymyl yn nodi mai o’r adeilad hwn y daeth darllediadau radio cyntaf y BBC o Gymru yn 1923.

Dempseys

Mae’r dafarn hon ar safle un o dafarndai cyntaf Caerdydd, Gwesty’r Globe, a agorodd yn 1731.

Castle Arcade

Y chwe arcêd Fictoraidd ac Edwardaidd yw rhai o nodweddion mwyaf trawiadol ac atyniadol Caerdydd. Adeiladwyd Arcêd y Castell tua 1887 ac os ewch chi i mewn, fe welwch fod galeri prydferth gydag ail lawr o bren yn ymestyn drosto, ynghyd â phontydd troed.

Cardiff Castle

Dros y ffordd i chi, mae Castell Caerdydd. Mae gan y safle hen hanes yn dyddio’n ôl i gyfnod y Rhufeiniaid – o dan y cerrig coch fe allwch chi weld y wal Rufeinig wreiddiol a gafodd ei darganfod yn ystod gwaith adeiladu yn 1889.

Adeiladodd y Normaniaid gastell ar y safle Rhufeinig ac mae’r Castell hefyd wedi’i gysylltu ag Owain Glyndŵr ac Iarll Warwick. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, adferodd y pensaer William Burges y Castell ar ran 3ydd Ardalydd Bute, y cawn weld cerflun ohono’n ddiweddarach ar y llwybr.

Heddiw mae modd i chi fynd ar daith y tu mewn i’r castell ynghyd â mwynhau gwledd Gymreig yn y gladdgell o’r 15fed ganrif. Mae tiroedd y castell yng nghanol y ddinas yn hafan o lonyddwch ac mae’r gorthwr Normanaidd yn rhoi golygfeydd godidog o’r ddinas.

Ewch yn eich blaen ar draws Heol Fawr.

Duke Street Arcade

Mae’r arcêd hon yn dyddio o 1902.

Y ffurf gynharaf ar enw’r ffordd hon oedd Duckstrete (1550) sy’n awgrymu cysylltiad â hwyaid, ac mae’n bosibl ei fod unwaith yn safle siopau gwerthwyr dofednod. Wedi bwrw golwg dros yr arcêd, ewch yn eich blaen i’r un cyfeiriad.

Aneurin Bevan Statue

Yn y ddeunawfed ganrif, enw’r gyffordd bwysig hon rhwng Heol y Dug, North Road, Heol y Frenhines a Sgwâr Sant Ioan oedd y Cylch Tarw, am fod ymladd tarw yn cael ei gynnal yma. Yn 1773, aeth un o’r dorf yn rhy agos a chafodd ei gornio i farwolaeth.

Codwyd y cerflun o Aneurin Bevan gan Robert J R Thomas yn 1987. Ganwyd Bevan yn Nhredegar, yng nghymoedd diwydiannol y de, ac ef oedd un o’r gweinidogion pwysicaf yn llywodraeth Lafur 1945-1951. Ef oedd yn gyfrifol am sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 1948.

Porth y Gogledd

Ychydig i fyny’r ffordd ar y chwith i chi mae safle hen Porth y Gogledd. Roedd sŵn y clychau o Eglwys Sant Ioan yn dynodi pryd i agor a chau’r porth ar ddiwedd pob diwrnod.

Wrth i chi gerdded ar hyd Heol y Frenhines, edrychwch ar bensaernïaeth ddiddorol lloriau uchaf yr adeiladau o’ch amgylch.

East Gate

Rydych chi newydd groesi llinell o gerrig palmant tywyll, sy’n nodi hen safle wal y dref a lleoliad Porth y Dwyrain. Roedd y dollffordd o Gaerloyw i Abertawe yn pasio drwy’r fan hon, ond tynnwyd pyrth y dref i lawr yn y ddeunawfed ganrif o ganlyniad i draffig cynyddol. Diflannodd wal y dref am byth yn 1901 pan dynnwyd y rhan olaf ohoni i lawr i wneud lle i’r farchnad bysgod, a chawn weld y lle hwnnw’n ddiweddarach ar y daith. Defnyddiwyd cerrig o’r wal i godi adeiladau newydd.

Gelwid y porth hwn yn Borth Crockerton. Crockherbtown oedd yr enw ar yr ardal i’r dwyrain o’r porth, hyd nes y cafodd ei hailenwi’n Heol y Frenhines i ddathlu Jiwbilî Aur y Frenhines Victoria yn 1887. Mae’n debyg fod yr enw blaenorol anghyffredin yn perthyn i ardd gyfagos ble tyfai perlysiau ‘llestr’ neu ‘bot’. Yn ddiweddarach ar y llwybr byddwn yn pasio Crockherbtown Lane.

Siambrau’r Frenhines

Edrychwch ar yr adeiladau melyn addurnedig yr ochr draw. Rhain oedd Siambrau’r Frenhines, a adeiladwyd yn 1878 yn arddull Fenis, a hynny mae’n debyg am eu bod ar lannau Camlas Morgannwg. Llenwyd y gamlas yn ystod 1950 ac felly nid yw’r adeilad bellach ar lan y dŵr fel cynt.

Mae dau blac ar yr adeilad yn rhoi mwy o wybodaeth am Siambrau’r Frenhines a wal y dref.

Cerddwch lan Heol Tŷ’r Brodyr

The Friary

Yn 1280 sefydlwyd brodordy gan Fynachod y Ffransisiaid ymhle mae’r tŵr bloc bellach yn sefyll. Mae’n debyg fod tua 12 o fynachod yn byw yma, a’r rheiny’n gwisgo abidau llwyd, ac yn cael eu galw felly’n Frodyr Llwydion.

Ynghyd ag eglwys anarferol o fawr, mae’n debygol y byddai gan y Brodordy ffreutur, ystafelloedd i westeion, ystafell gysgu a chlwysty. Roedd caeau a gerddi hefyd ymhle tyfai’r mynachod eu bwyd. Yn niwygiad 1538 cafodd yr holl eiddo ei feddiannu a’r eglwys ei dymchwel.

Yn 1582, adeiladodd Sir William Herbert blasty ar y safle, ble bu’r teulu Herbert yn byw, mae’n debyg, tan y ddeunawfed ganrif. Fe allwch chi weld llechen yn dyddio’r plasty ym mhrif fynedfa’r tŵr bloc.

Cyn ailddatblygu’r ardal hon, roedd gerddi cegin y Castell wedi’u lleoli yma.

Croeswch Heol y Brodyr Llwydion wrth y groesfan.

Friary Gardens

Yn y gerddi bychain ar y chwith fe allwch chi weld cerflun o 3ydd Ardalydd Bute. Y teulu Bute ddatblygodd ac oedd yn berchen ar ddociau ffyniannus Caerdydd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a’r 3ydd Ardalydd oedd un o ddynion cyfoethocaf y byd.

Gwariodd yr Arglwydd Bute lawer o’i gyfoeth ar ailddatblygu Castell Caerdydd, ac yn 1898 gwerthodd 59 acer o Barc Cathays i Gorfforaeth Caerdydd, ar yr amod fod y coed yn cael eu cadw. Nododd hefyd na ddylid codi adeiladau ar safle’r gerddi hyn o gwbl.

Dock Feeder

Cyn mynd dan y llwybr i Barc Cathays, edrychwch ar y ffynnon yfed ar y wal ar y dde. Cafodd ei rhoi fel rhodd gan y Maer William Alexander, a’i hadeiladu’n wreiddiol yn wal Neuadd y Dref, Heol Eglwys Fair, yn y 1860au. Yn 1908, cafodd ei symud i Lôn y Felin, a’i symud eto i’r safle ble mae heddiw yn 1952.

Oddi tanoch mae cyflenwydd y dociau i Gamlas Morgannwg. Adeiladwyd y Gamlas rhwng 1790 ac 1798, i gludo nwyddau trwm o’r cymoedd diwydiannol i’w hallforio o amgylch y byd o ddociau Caerdydd. Llifai am 25 milltir o Gyfarthfa, ger Merthyr Tudful, i’r dociau. Roedd 52 o lociau arno, a oedd yn golygu oedi cyson. Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar ddeg, roedd y gamlas mor brysur nes y byddai’n rhaid i fasnachwyr chwilio am ffyrdd eraill o drafnidiaeth ac erbyn canol y ganrif honno roedd Rheilffordd Bro Taf ar agor. Teithiodd y bad olaf ar hyd y gamlas yn 1942.

Mae llwybr o dan y briffordd, yn arwain o Westy’r Hilton am y de tua’r Castell. Roedd hwn yn wreiddiol yn rhan o Gamlas Morgannwg ac mae’r llwybr tynnu o hyd i’w weld heddiw.

Cafodd y cyflenwydd hwn ei gau yn yr 1830au. Rhedai o Gamlas Morgannwg i’r dociau, gan lanhau mwd a sbwriel a chadw’r dŵr yn wastad yn y dociau.

Cerddwch drwy’r llwybr o dan y ffordd, ac ar yr ochr draw ewch i fyny’r ramp ar y chwith.

City Hall

Rydych chi wedi cyrraedd Parc Cathays, lleoliad un o ganolfannau dinesig mwyaf trawiadol Prydain. Nid yw gwreiddiau’r enw Cathays yn glir, er bod yr ail elfen – hays – efallai’n cyfeirio at dir wedi’i amgylchynu gan wrych. Gwelwn hyn hefyd yn enw Yr Aes, y byddwn yn ei gyrraedd yn ddiweddarach.

Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg, gwyddai Corfforaeth Caerdydd fod angen tir arni ar gyfer adeiladau dinesig newydd. Dywedodd y Cynghorydd Peter Price: “Gellid lleoli’r rhain o amgylch parc canolog. Pe bai’r Arglwydd Bute yn fodlon gwerthu’r tir hwn am swm cymedrol, gallwn wneud Caerdydd yn un o’r trefi prydferthaf yn y wlad…”

Roedd llawer o ddadlau ynghylch dewis y Gorfforaeth, ond yn y pen draw prynwyd Parc Cathays oddi wrth y teulu Bute am £161,000 yn 1898, a chynlluniwyd i’w ddatblygu. Mae’r adeiladau o gerrig Portland, y parciau a’r rhodfeydd coediog yn golygu mai’r ganolfan ddinesig yw un o nodweddion amlycaf Caerdydd ac mae’n enghraifft gyda’r gorau yn y byd o bensaernïaeth ddinesig.

Wrth i chi ddod allan o’r llwybr o dan y ffordd, mae Neuadd y Ddinas ar y dde. Fe’i cynlluniwyd gan benseiri Lanchester, Stewart a Rickards, a hwn yw prif adeilad y ganolfan ddinesig. Costiodd £129,000 i’w adeiladu a’i agor yn 1906 wedi i Gaerdydd gael statws dinas y flwyddyn flaenorol.

Mae tŵr y cloc yn codi 60 metr, ac ar ben y gromen ceir draig Gymreig. Mae’r tu mewn i’r adeilad yn ysblennydd, gyda’r Neuadd Farmor yn cysylltu Siambr y Cyngor a’r Ystafelloedd Ymgynnull addurnedig. Mae gan y Neuadd gerfluniau marmor o 11 o arwyr Cymru, a gafodd eu dewis drwy gystadleuaeth ym mhapur y Western Mail.

Y tu mewn, fe allwch chi ofyn am daflen yn disgrifio casgliadau celf Neuadd y Ddinas, ac os yw hynny’n bosibl, fe allwch chi eu gweld yn eich amser eich hun.

Cofeb Ryfel De Affrica

Yng nghanol y cylch troi yn y ffordd mae Cofeb i’r Cymry a fu farw yn Rhyfel De Affrica (1899-1902). Cerflun o Electra sydd i’w weld, a gynlluniwyd gan y cerflunydd Albert Toft.

Cerddwch lan Rhodfa’r Brenin Edward VII.

Law Courts

Cafodd y Llysoedd Barn eu cwblhau yn 1904 am gost o £96,000. Syr W Goscombe John (1860-1952) a luniodd y cerflun o’r Barnwr Gwilym Williams, ” brawychwr drwgweithredwyr”, a gellir gweld ei waith drwy’r ddinas.

Edrychwch ar y lampau siâp obelisg o amgylch adeiladau’r Llysoedd Barn a Neuadd y Ddinas. Mae’r rhain yn strwythurau rhestredig diddorol gydag adar graffwn a gwifr ar flaen llongau, gyda phob un yn dangos arfbais Caerdydd. Credir iddynt gael eu cynllunio fel rhan o ddatblygiad y Llysoedd Barn.

University of Wales Registry

Dyma oedd yr adeilad cyntaf i’w godi ym Mharc Cathays, a adeiladwyd yn 1903/04. Daeth yn ganolfan weinyddol i Brifysgol Cymru pan gynigiodd Corfforaeth Caerdydd safle am ddim a rhent hynod o rad i’r Brifysgol, er mwyn cael yr anrhydedd o fod yn gartref i bencadlys y Brifysgol.

Mae’r arddull yn glasurol gyda cholofnau Ϊonig yn y fynedfa, ffenestri cylch ar y llawr uchaf, a dreigiau cwsg hynod o fanwl gan Syr W Goscombe John ar y pyst o flaen yr adeilad.

Glamorgan Building

Cafodd Cyngor Sir Morgannwg ei sefydlu yn 1888 ac agorodd yr adeilad hwn fel pencadlys yn 1912.

Edrychwch ar y ddau grŵp o gerfluniau o flaen y fynedfa yn cynrychioli Cloddio (Minerva gyda chloddwyr) a Morwriaeth (Neifion mewn cerbyd rhyfel), a oedd yn hanfodol i adeiladu economi De Cymru.

Heddiw, mae’r adeilad yn rhan o Brifysgol Caerdydd.

Agorodd yr adeilad hwn yn 1916 fel Coleg Technegol, ac mae bellach yn rhan o Brifysgol Caerdydd. Mae ar ffurf petryal gwag, a’r prif ffasâd mewn steil Groegaidd newydd gyda phortico o golofnau Dorig. Ychwanegwyd y ddraig goch yn 1985.

Dyma oedd project adeiladu mawr cyntaf y pensaer Percy Thomas. Gellir gweld ei waith drwy Gaerdydd a’i gwmni a gynlluniodd Ganolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd.

Teml Heddwch

Yr adeilad nesaf yw Teml Heddwch ac Iechyd Genedlaethol Cymru a agorodd yn 1938. Rhodd oedd hyn i bobl Cymru gan y cymwynaswr mawr, yr Arglwydd David Davies o Landinam, ac fe’i cyflwynwyd i gofio am y bywydau a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’n adeilad clasurol haniaethol, gyda llinellau syml, ar siâp T. O dan y Deml mae’r gladdgell ble mae Llyfr Coffa Cenedlaethol Cymru.

Falklands Memorial

Nawr ewch i Erddi Alexandra y tu ôl i chi. Ar y dde mae Cofeb y Falklands ymysg chwe chedrwydden las, a blannwyd i gofio am y chwe gŵr o Gaerdydd a fu farw yn ymladd yn y Falklands yn 1982.

Welsh National War Memorial

Yng nghanol y Gerddi mae’r Gofeb Ryfel Genedlaethol, a adeiladwyd i gofio am y Cymry a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r Gofeb ar ffurf llys wedi’i ostwng, ac mae’n cynnwys ffynnon a sedd o fewn cylch o golofnau Corinthaidd.

Mae tair ffigwr efydd yn cynrychioli milwr, morwr a milwr awyr yn codi torchau tuag at y ffigyrau canolog, sef Negesydd Buddugoliaeth adeiniog.

Gweler yr ysgrifiad Cymraeg ar y ffrîs allanol i gofio am y Cymry a fu farw yn y rhyfel. Gweler hefyd y darnau o farddoniaeth gan T Gwynn Jones ac R. Williams Parry.

Gadewch y Gerddi gyferbyn â lle daethoch i mewn.

Cardiff University

Agorwyd Coleg y Brifysgol De Cymru a Sir Fynwy yn ffurfiol yn 1883 gyda 102 o fyfyrwyr, 15 ohonynt yn fenywod. Yn 1909, symudodd y Coleg i’r adeilad hwn, a gafodd ei ehangu’n ddiweddarach. Er ei fod yn adeilad o fri, roedd gan benseiri’r cyfnod amheuon ynghylch ei ansawdd esthetig.

Heddiw dyma brif adeilad Prifysgol Caerdydd.

Trowch i’r dde, a cherdded nôl tuag at ganol y ddinas.

National Museum of Wales

Wynebodd Gaerdydd gystadleuaeth gan Aberystwyth, Abertawe a Chaernarfon i fod yn gartref i Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Cynigiodd Caerdydd y safle hwn, ynghyd â chymorth ariannol, ac ym mis Mehefin 1905 penderfynwyd mai yng Nghaerdydd y byddai Amgueddfa Genedlaethol Cymru (aeth y Llyfrgell Genedlaethol i Aberystwyth).

Gosododd y Brenin George V y garreg gyntaf yn 1912, ac ar ôl i’r Rhyfel Byd Cyntaf ohirio’r broses, agorwyd yr Amgueddfa gan yr un Brenin yn 1927. Agorwyd estyniadau ar ochr ddwyreiniol yr adeilad yn 1932.

Cafodd yr adeilad groeso mawr, yn enwedig y fynedfa drawiadol mewn arddull Dorig a drysau efydd anferth. Edrychwch ar y cerfluniau uwchben y cornis. Mae’r rhai ar yr ochr ddeheuol (y tu blaen) yn cynrychioli oes y Cerrig, yr oes Efydd, oes yr Haearn a’r Glo; mae’r rhai ar y gorllewin yn cynrychioli cloddio a morio; ac mae’r rhai ar y dwyrain yn cynrychioli dysgu, celf a cherddoriaeth.

Does dim cost mynediad felly fe allwch chi fwrw golwg y tu mewn ac edrych ar y neuadd drawiadol a’r grisiau marmor (cadarnhewch yr oriau agor). Mae gan yr adeilad un o gasgliadau celf argraffiadol gorau’r byd, ynghyd â galerïau gwyddoniaeth naturiol.

Dros y ffordd i risiau’r Amgueddfa ceir cerflun gan Rizzello o’r cyn Brif Weinidog, David Lloyd George. Fe’i codwyd yn 1960 i gofio am un o’r gwladweinwyr mwyaf i ddod o Gymru erioed.

Nawr ewch yn eich blaen i Erddi’r Orsedd, gyferbyn â’r Amgueddfa.

Gorsedd Gardens

Y cylch o gerrig a welwch yma yw cylch yr Orsedd, a gafodd ei godi mewn man arall i gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 1889 a’i symud yma ym 1905.

Mae Gorsedd y Beirdd yn gymdeithas o aelodau sydd wedi cyfrannu i genedl, iaith a diwylliant y Cymry. Mae’r aelodau’n cynnwys y canwr opera Bryn Terfel a sêr o fyd chwaraeon, pop, y celfyddydau a gwleidyddiaeth. Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol bydd yr Orsedd yn cynnal seremonïau i wobrwyo llenorion a beirdd Cymraeg.

Mae’r ddau gerflun efydd o’r Arglwydd Ninian Stuart, AS dros Gaerdydd a gafodd ei ladd ym mrwydr Loos yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a John Cory, dyngarwr a pherchennog glo. Syr W Goscombe John a luniodd y ddau gerflu

Park House

Gyferbyn â’r gerddi mae un o’r tai tref pwysicaf yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a barodd chwyldro ym mhensaernïaeth Caerdydd. William Burges a gynlluniodd Tŷ Parc mewn arddull Gothig Ffrengig, ac fe’i adeiladwyd yn y 1870au ar gyfer John McConnochie, peiriannwr dociau Caerdydd. Gellir gweld dylanwad Burges drwy’r ddinas, o’r Castell i gartrefi yn y maestrefi.

Nawr croeswch Boulevard de Nantes – a enwyd ar ôl un o efeilldrefi Caerdydd.

New Theatre

Adeiladwyd y theatr Edwardaidd draddodiadol hon gan Runtz a Ford ac agorodd yn 1906, gyda Syr Herbert Beerbohm Tree a Chwmni Theatr ei Mawrhydi yn perfformio Twelfth Night. Mae sibrydion fod gan y theatr ysbryd cyfeillgar o’r enw’r Foneddiges Lwyd.

Sefydliad y Peirianyddion

Cyn i chi groesi’r ffordd, edrychwch ar yr adeilad bric coch a melyngoch. Dyma oedd Sefydliad Peirianwyr De Cymru, a adeiladwyd yn 1893, ac a gynlluniwyd gan EWM Corbett yn arddull y Frenhines Anne. Heddiw mae rhan ohono’n glwb nos.

Head on past Crockherbtown Lane and on your left is the ParkThe Park Hotel

Ewch heibio Crockherbtown Lane ac ar eich chwith mae Gwesty’r Parc, sydd bellach yn un o gadwyn o westai. Fe’i adeiladwyd yn 1885 yn arddull y dadeni Ffrengig. Syniad James Howell, y perchennog siop, oedd y gwesty ac fe fynnai fod teithwyr masnachol oedd yn masnachu ag ef yn aros yn y Parc. Roedd gan yr adeilad gwreiddiol ddwy neuadd gyhoeddus, siop goffi a deg o siopau.

Nawr ewch i lawr Heol Siarl, gerllaw Marks and Spencer. Adeiladwyd Heol Siarl ar ôl 1850 ac roedd yn un o’r strydoedd mwyaf ffasiynol yng Nghaerdydd.

St David’s Cathedral

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg cynyddodd nifer y Catholigion yn sylweddol wrth i fewnfudwyr Gwyddelig ddod i’r dociau i weithio, ac yn 1888 agorodd Eglwys Dewi Sant fel prif eglwys Gatholig Caerdydd.

Fe’i adeiladwyd gan gwmni penseiri Pugin a Pugin gyda thywodfaen pennwn ac wyneb o graig, ynghyd â thywodfaen coch, ac fe ddaeth yn eglwys gadeiriol yn 1916.

Cafodd yr Eglwys ei bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd ond fe’i ail-agorwyd yn dilyn gwaith adfer sylweddol yn 1959.

Capel Ebeneser

Yr adeilad gyferbyn oedd Capel Ebeneser a agorodd yn 1855 a bu’n gapel Cymraeg o 1976 tan 2011. Mae’r gwaith cerrig amryliw yn gyfuniad o gerrig o bob rhan o’r byd, a gafodd eu cludo i Gaerdydd fel balast ar longau a ddychwelai i Gaerdydd. Yn ôl yr hanes, ysgrifennodd y pensaer RG Thomas at bennaeth bob gwladwriaeth yn y byd i ofyn am garreg i’w gosod yn y ffasâd. Ei syniad oedd cael carreg i gynrychioli pob cenedl fel symbol o bŵer Duw drwy’r bydysawd.

Nawr cerddwch heibio i gefn Marks and Spencer a throi i’r chwith wrth Debenhams.

Edrychwch ar y fynedfa i ganolfan siopa Dewi Sant ar y dde. Arferai hen wal y dref fynd drwy’r fan hon, yr holl ffordd o Borth y Dwyrain, a welsom yn gynharach.

The Fish Market

Arferai’r Farchnad Bysgod fod yn yr adeilad ar y gornel dde gyferbyn â’r cerflun. Agorodd yn 1901, yn gwerthu pysgod oedd yn cyrraedd Caerdydd ar gychod pysgota Neale and West.

Rhwng 1936 ac 1937 cafodd yr adeilad ei droi yn ystafelloedd arddangos nwyddau trydan ac yn swyddfeydd – edrychwch ar y plac ar y wal. Bu gan Gaerdydd gyflenwad trydan ers 1894, a hi oedd un o’r dinasoedd cyntaf i gael goleuadau stryd.

Mae gan y tu mewn i’r adeilad, yn enwedig y llawr uchaf, lawer o’r nodweddion gwreiddiol o hyd.

Cerfddelw John Batchelor

Roedd John Batchelor yn ddiwygiwr radical a oedd yn Faer ar Gaerdydd yn 1853. Roedd ei lwyddiannau yn cynnwys system ddraeniau a charthffosiaeth newydd a oedd yn help i atal colera, a oedd yn taro’n aml.

David Morgan

Yr adeilad o’ch blaen oedd siop David Morgan. Ganwyd David Morgan yn Aberhonddu, rhyw 50 milltir i’r gogledd o Gaerdydd, ac agorodd ei siop enwog yn 1879. Nid oedd yn credu mewn bargeinio, gostyngiadau nac mewn seliau, a dros y 125 mlynedd nesaf adeiladodd y siop enw da am roi gwerth am bres a chynnyrch o ansawdd da, gan ddarparu gwasanaeth gwych i gwsmeriaid. Arhosodd y siop yn eiddo i ddisgynyddion uniongyrchol David Morgan tan iddi gau yn gynnar yn 2005.

Wrth y brif fynedfa, mae dwy golofn Larvikite gyda grisial ffelsbar sgleiniog – a elwir weithiau yn “garreg dafarn” am ei bod yn cael ei defnyddio’n aml ar gyfer cownteri bar.

Cerddwch o flaen y siopau ar y llawr gwaelod tuag at Gapel Tabernacl.

Tabernacl Chapel

Capel Cymraeg yw hwn, ble mae’r Bedyddwyr Cymraeg wedi cwrdd ers 1821. Cafodd ei ailadeiladu yn 1865 gyda ffasâd clasurol. Roedd Christmas Evans, y pregethwr enwog gydag un llygad, yn gwasanaethu yma rhwng 1828-32.

Darlledwyd y rhaglen deledu cwbl Gymraeg gyntaf erioed oddi yma ar Ddydd Gŵyl Ddewi 1953, sef gwasanaeth crefyddol.

Recordiau Spillers

Recordiau Spillers oedd y siop y drws nesaf i’r tŷ bwyta, Agorwyd hi ym 1894, ac roedd yn arbenigo mewn ffonograffau, silindrau ffonograff cwyr, a disgiau ffonograff sielac. Mae Spillers nawr yn Arcêd Morgan ac fe ddywedir mai hi yw’r siop recordiau hynaf yn y byd.

Mill Lane

Arferai Camlas Morgannwg lifo yma. Edrychwch ar yr adeilad uchel hanner ffordd i lawr ar y dde. Warws oedd hwn a gallwch weld y drws llwytho yn y top.

Dewiswyd y cynllun “tonnau” glas ar y ffens fodern i gofio am y gamlas.

Nawr ewch lawr Stryd Caroline.

The Old Brewery

Mae cwrw wedi’i fragu yng Nghaerdydd am ganrifoedd. Yn 1340, penodwyd dau flaswr i gadw golwg ar bris y cwrw ac i brofi ei ansawdd. Yn 1855 roedd tri bragdy yng nghanol Caerdydd. Bragdy Brains oedd yr olaf o’r rhain.

Cwrw Brains yw un o draddodiadau mawr Caerdydd. Ffurfiodd Samuel Arthur (SA) Brain y cwmni yn 1882 a phrynu’r safle hwn, sef Yr Hen Fragdy heddiw, gyda’i ewythr. Mae’r cwmni wedi bod yn nwylo’r teulu ers hynny.

Gan fanteisio ar y ffynnon naturiol, dechreuwyd bragu cwrw yma yn 1713 a pharhau i wneud hynny tan 1999. Heddiw caiff Brains ei fragu ar safle i’r de o ganol y ddinas.

Trowch i’r dde i Heol Eglwys Fair.

Royal Arcade

Yr Arcêd Frenhinol yw arcêd siopa hynaf Caerdydd, yn dyddio’n ôl i 1858.

Gwesty’r Royal

Dros y ffordd mae Gwesty’r Royal. Yma y bwytodd y Capten Robert Falcon Scott a’i dîm o fforwyr cyn gadael Caerdydd ym mis Mehefin 1910, ar eu taith aflwyddiannus i gyrraedd Pegwn y De am y tro cyntaf. Cyrhaeddodd y grŵp y Pegwn ym mis Ionawr 1912 dim ond i ddarganfod fod Roald Amundsen, y gŵr o Norwy, wedi cyrraedd yno fis ynghynt. Bu farw Scott a phedwar o’i gyfoedion a gyrhaeddodd y Pegwn ar eu taith yn ôl i’w llong.

Credir mai tŵr y gwesty oedd un o’r adeiladau uchaf yng Nghaerdydd ar un adeg.

Morgan Arcade

Dyma’r arcêd Fictoraidd orau yng Nghaerdydd, a adeiladwyd yn 1896. Mae’n werth gweld y ffenestri yn arddull Fenis a blaen gwreiddiol pren y siopau.

Howells

Codwyd yr adeilad hwn ar gyfer James Howell, dilledydd a symudodd ei fusnes yma yn 1867. Tan 1843, defnyddiwyd rhan o’r safle fel barics.

O fewn y siop mae Capel y Bedyddwyr Bethany, sy’n dyddio o 1865 ac a gafodd ei werthu i siop Howells yn 1964. Fe allwch chi weld yr hyn sy’n weddill o’r ffasâd yn yr adran dillad dynion. Mae plac efydd ar ffasâd y capel i gofio am Rawlings White a gafodd ei losgi yma am heresi yn 1555.

Ym mis Ionawr 1943, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd rhan o siop Howells ei meddiannu er mwyn gallu cynhyrchu parasiwtiau a balŵns arglawdd ar ôl i dân ddinistrio’r brif ganolfan gynhyrchu yn nociau Caerdydd.

Ar gornel Howells trowch i’r dde lawr Heol-y-Cawl.

The Hayes

Mae’n debyg fod y gair Aes yn deillio o air hynafol am dir wedi’i amgylchynu gan wrych. Yn y canol oesoedd, rhoddwyd darnau o dir i bobl leol o’r enw tir bwrdais – neu heys – ac roedd gerddi llysiau yma tan y ddeunawfed ganrif. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd yr ardal yn fan siopa ffasiynol. Adeiladwyd Bar Bwyd Ynys yr Aes, sy’n enwog yng Nghaerdydd, yn 1911 fel swyddfa Cwmni Tramiau.

Neuadd Dewi Sant

Neuadd Dewi Sant yw’r Neuadd Gyngerdd Genedlaethol a Chanolfan Gynhadledd Cymru. Fe’i agorwyd yn 1983 gan y Fam Frenhines.


Dyna chi wedi cyrraedd diwedd y llwybr – mae’n amser i gael gorffwys!